Mae’r penderfyniad i ddileu cynllun Erasmus i fyfyrwyr mewn prifysgolion wedi cael ei ddisgrifio fel “ergyd enfawr” gan Weinidog Prifysgolion Llywodraeth yr Alban.

Daw’r penderfyniad fel rhan o’r broses Brexit, wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ei le, bydd cynllun newydd ar raddfa fyd-eang yn cael ei gyflwyno, ac fe fydd yn dwyn enw Alan Turing.

Fe fu Prydain yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987, gan roi’r hawl i fyfyrwyr astudio a gweithio ledled Ewrop.

Mae miloedd o fyfyrwyr yn manteisio ar y cynllun bob blwyddyn.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, wedi disgrifio’r penderfyniad i ddileu’r cynllun fel “fandaliaeth ddiwylliannol”.

‘Annerbyniol’

Mae sylwadau Nicola Sturgeon wedi cael eu hategu gan Richard Lochhead.

“Mae colli Erasmus yn ergyd enfawr,” meddai’r Gweinidog Prifysgolion.

“Mae hyn, yn syml, yn annerbyniol ac rydym yn edrych ar opsiynau amgen.

“Ar ôl blynyddoedd o drafodaethau a chyfarfodydd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud y penderfyniadau hyn waeth bynnag am safbwyntiau’r gweinyddiaethau datganoledig.”

Mae lle i gredu bod Erasmus yn cyfrannu bron i £34m at economi’r Alban bob blwyddyn ers 2014.

Bydd myfyrwyr yng Ngogledd Iwerddon yn dal yn cael bod yn rhan o’r cynllun.

Beirniadu cynllun Turing

Mae Richard Lochhead hefyd wedi beirniadu cynllun Turing.

Mae’n dweud bod y cynllun yn “wannach” ac “wedi’i ariannu’n llai” na chynllun Erasmus, ac nad yw’n gynllun cyfnewid “oherwydd does dim cefnogaeth ar gyfer ymweliadau â’r Alban”.

Wrth drafod Erasmus, dywed fod y cynllun wedi “chwarae rôl allweddol wrth agor cyfleoedd a gorwelion i gynifer o Albanwyr ifainc”.

“Yn gwbl hanfodol, mae’n gynllun sy’n dod â gwahanol wledydd a chenedloedd ynghyd, gyda buddiannau diwylliannol ac addysgiadol enfawr.”