Mae deg o bobol wedi mynd gerbron llys wedi’u cyhuddo o geisio ffoi o Hong Kong ar gwch yn ystod cyfnod pan oedd Llywodraeth Tsieina yn ceisio tawelu a gweithredu yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
Mae’r deg yn wynebu cyhuddiadau o groesi’r ffin yn anghyfreithlon, ac mae dau ohonyn nhw hefyd yn wynebu cyhuddiadau o drefnu’r digwyddiad.
Mae disgwyl i ddau arall oedd ar y cwch am Taiwan ar Awst 23 fynd gerbron y llys mewn gwrandawiadau ar wahân.
Mae lle i gredu bod y deg yn credu y bydden nhw’n cael eu herlyn am eu gweithredoedd yn y gorffennol wrth iddyn nhw gefnogi gwrthblaid ddemocrataidd Hong Kong.
Daw’r achos ar ôl i gyfreithiau diogelwch cenedlaethol newydd gael eu cyflwyno fis Mehefin.
Mae disgwyl i’r deg gael eu dedfrydu maes o law.
Mae teuluoedd y rhai sy’n wynebu cyhuddiadau’n dweud nad oedden nhw wedi cael yr hawl i gael eu cyfreithwyr eu hunain, a bod cymhelliant gwleidyddol i’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Gallen nhw gael eu dedfrydu i hyd at flwyddyn o garchar am groesi’r ffin, a saith mlynedd am drefnu’r digwyddiad.