Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dweud bod ganddyn nhw ddigon o gyflenwadau, wrth ymateb i hysbyseb sydd wedi ymddangos ar y we.

Mae’n debyg bod rhestr o nwyddau wedi cael ei chreu ar wefan siopa Amazon yn gofyn i bobol eu prynu ar ran y bwrdd iechyd.

Ond mae’r bwrdd iechyd yn dweud bod ganddyn nhw “ddigon o gyflenwadau ar gyfer staff a chleifion”.

Fe ddaw ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod gwasanaethau gofal critigol dan bwysau yng Nghymru yn sgil cynnydd yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i’r coronafeirws.

“Rydym yn ymwybodol o Restr Ddymuniadau Amazon sy’n cylchredeg ar gyfer ein hadran gofal critigol,” meddai’r bwrdd iechyd ar Twitter.

“Gallwn gadarnhau nad yw hon wedi dod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae gennym ddigon o gyflenwadau ar gyfer staff a chleifion.

“Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth ar yr adeg heriol hon.”