Mae llysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd wedi rhoi sêl bendith i gytundeb masnach ôl-Brexit gael ei gyflwyno a’i weithredu o Ionawr 1.
Yn ôl llefarydd, fe gafodd ei gymeradwyo’n unfrydol ar ôl taro bargen ar Noswyl Nadolig.
Mae’n golygu y bydd modd masnachu heb dariff â marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben ddydd Iau (Ionawr 31).
Mae disgwyl i wleidyddion yn San Steffan bleidleisio ar y fargen ddydd Mercher (Rhagfyr 30), a’r tebygolrwydd yw y bydd yn cael ei phasio ar ôl i Lafur orchymyn eu haelodau seneddol i’w chefnogi.
Mae’r Blaid Lafur yn ofni mai’r unig opsiwn arall yw gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Bydd rhaid i’r Undeb Ewropeaidd roi sêl bendith i’r cytundeb yn y flwyddyn newydd.