Mae un o’r meddygon ar bwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain yn rhybuddio nad yw’n debygol y bydd imiwnedd torfol yn erbyn y coronafeirws trwy’r brechlyn cyn yr haf.

Yn ôl yr Athro Calum Semple o Brifysgol Lerpwl, fe fydd brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn “gweddnewid” sefyllfa’r feirws pe bai’n cael ei gymeradwyo gan yr MHRA dros y dyddiau nesaf.

“Byddai cael imiwnedd torfol yn y gymuned ehangach trwy’r brechlyn yn hytrach na thrwy heintio naturiol yn golygu brechu 70-80% o’r boblogaeth a bydd hynny, dw i’n ofni, yn mynd â ni i’r haf, dw i’n disgwyl.”