Mae Clwb Pêl-droed Queen of the South wedi ymddiheuro wrth eu cefnogwyr ar ôl i’r gwleidydd George Galloway gael mynd i gêm er nad oes hawl gan gefnogwyr fynd i gemau ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Fe wnaeth y tîm chwarae yn erbyn Dundee ar Ddydd San Steffan.
Mae’r newyddion fod Galloway wedi mynd i’r gêm, a gafodd ei gadarnhau ar wefan y clwb, wedi cythruddo’r cefnogwyr.
Dywedodd y clwb mewn datganiad iddo gadw pellter bob amser a’i fod mewn swigen â’i deulu yn y stadiwm.
Dywedon nhw ymhellach iddyn nhw ddilyn pob protocol yn ystod y gêm.
Fe wnaeth e bostio llun ohono fe ei hun yn y stadiwm i wefan Twitter, ac fe wnaeth cefnogwyr ymateb yn chwyrn.
Mae’r Alban yn destun cyfyngiadau Haen 4 ers hanner nos ar Ddydd Nadolig.