Mae disgwyl i Gaerdydd a Wycombe wneud nifer o newidiadau i’w timau wrth iddyn nhw herio’i gilyd yn y Bencampwriaeth yn Wycombe nos fory (nos Fawrth, Rhagfyr 29).

Tra bod Wycombe heb fuddugoliaeth mewn 11 o gemau yn y gynghrair, roedd Neil Harris yn cwyno am safon y perfformiad yng ngêm ddiwetha’r Adar Gleision wrth iddyn nhw golli o 3-2 yn erbyn Brentford ar Ddydd San Steffan.

Mae disgwyl i Greg Cunningham, Marlon Pack a Josh Murphy ddychwelyd i dîm Harris, a gallai Filip Benkovic a Gavin Whyte gael cyfle hefyd.

Bydd Kieffer Moore, Lee Tomlin a Jordi Osei-Tutu allan tan y flwyddyn newydd oherwydd anafiadau.

O safbwynt Wycombe, gallai Anis Mehmeti ddechrau am y trydydd tro yn unig ar ôl sgorio’r gôl wnaeth unioni’r sgôr yn erbyn QPR dros y penwythnos, tra gallai Uche Ikpeazu hefyd gael ei ddewis ym mlaen y cae.

Mae Alex Pattison wedi’i wahardd am un gêm arall ar ôl cael cerdyn coch yn erbyn Bournemouth.

Dydy Wycombe ddim wedi ennill gêm ers iddyn nhw guro Birmingham ar Dachwedd 4.