Mae amheuon am ffitrwydd y golwr Nick Townsend wrth i Gasnewydd groesawu Caerwysg (Exeter) nos fory (nos Fawrth, Rhagfyr 29).

Bu’n rhaid iddo adael y cae ar yr egwyl yn dilyn ergyd yn y gêm yn erbyn Crawley ddydd Sadwrn (Rhagfyr 26).

Gallai’r capten Joss Labadie ddychwelyd ar ôl colli’r tair gêm ddiwethaf, ac mae Ryan Taylor bron yn holliach ar ôl bod allan am dri mis ag anaf i linyn y gâr.

Yn y cyfamser, mae gan Gaerwysg broblemau yn safle’r cefnwr de.

Mae Josh Key wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws, tra bod Pierce Sweeney wedi cael anaf i linyn y gâr yn y gêm yn erbyn Forest Green ac mae disgwyl iddo fod allan am hyd at chwe wythnos.