Colli o 2-0 oedd hanes Wrecsam yn Stockport yn y Gynghrair Genedlaethol heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 28).

Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy Richie Bennett ar ôl i Connor Jennings greu’r cyfle.

Dair munud yn ddiweddarach, dyblodd Stockport eu mantais wrth i Jordan Keane benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar gic gornel gan Macauley Southam-Hales.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn ddeuddegfed yn y tabl, driphwynt yn unig y tu ôl i Stockport, sy’n codi i’r pedwerydd safle.