Fe fydd yr Elyrch yn gorfod chwarae eu dwy gêm yr wythnos yma heb eu hergydiwr Liam Cullen, sydd wedi profi’n bositif i’r coronafeirws.

Mae’r chwaraewr rhyngwladol i dîm dan 21 Cymru, sydd wedi ymddangos wyth gwaith y tymor hwn, yn hunan-ynysu ar ôl prawf ddydd San Steffan.

Fe fydd yn colli’r gêm gartref yn erbyn Reading yfory (dydd Mercher) a gêm Watford ddydd Sadwrn.

Yn y cyfamser, fe fydd yr amddiffynnwr Kyle Naughton yn cael ei asesu ar ôl colli’r fuddugoliaeth 2-0 yn erbyn QPR ddydd San Steffan. Mae George Byers ar gael ar ôl cyfnod hir yn absennol, ond mae ei gyd-chwaraewr canol cae Morgan Gibbs-White yn dal i ddioddef anaf i’w droed.