Mae’n rhaid i chwaraewyr Caerdydd wneud yn well, yn ôl y rheolwr Neil Harris, ar ôl colli 2-1 i Wycombe neithiwr.

Rhoddodd goliau gan Ryan Tafazolli a David Wheeler fuddugoliaeth rwydd i Wycome, a’r unig gysur i’r Adar Glas oedd gôl yn y munudau ychwanegol gan Junior Hoilett.

Dyma’r drydedd gêm yn olynol i Gaerdydd ei cholli.

“Rydym yn ildio gormod o goliau, ac rydym yn rhy feddal,” meddai Neil Harris.

“Mae colli gemau fel gwnaethon ni heno yn siomedig, nid yw’n ddigon da i mi.

“Lle mae’r penderfyniad i ennill? Roedd hyn gennym am hir ac mae wedi diflannu. Rhaid gwneud yn well os am gystadlu ym mhen uchaf y gynghrair.”