Mae’r Cymro Daniel Pearson wedi ymuno â thîm seiclo Vini Zabu yn yr Eidal.

Mae’r seiclwr 26 oed o Gaerdydd eisoes wedi gorffen yn chweched yn Tour Croatia ac yn unfed ar ddeg yn Tour Oman.

Daeth ei lwyddiant diweddaraf wrth ennill cymal yn Tour Mirabelle yn 2019.

Fe ddechreuodd ei yrfa yn yr Eidal yn cystadlu i dîm Zalf Desiree Fior cyn troi’n broffesiynol a mynd yn ei flaen i gystadlu i dimau Wiggins ac Aqua Blue Sport.