Gobeithio i bawb gael Nadolig Llawen a Dydd Joe Allen hapus. Hoffwn fedyddio hwnnw fel yr enw newydd ar Ŵyl San Steffan wedi i’r dewin bach ddychwelyd i’r cae ddoe yn dilyn cyfnod hir gydag anaf.
Dyna a oedd y newyddion mawr o safbwynt cefnogwyr Cymru’r penwythnos hwn ond roedd hi’n wythnos dda i ambell un arall hefyd.
Uwch Gynghrair Lloegr
Cafodd Ethan Amdadu 90 munud arall yng nghanol cae Sheffield United ddydd Sadwrn, newyddion da i gefnogwyr Cymru er mai parhau y mae dechrau trychinebus y Blades i’r tymor wedi iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Everton.
Dechreuodd Daniel James i Man U yn erbyn Caerlŷr hefyd ond cafodd ei eilyddio yn gynnar yn yr ail hanner ar ôl methu a gadael ei farc ar y gêm.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Danny Ward i Gaerlŷr yn y gêm honno ac felly hefyd Neil Taylor i Aston Villa y erbyn Crystal Palace.
Roedd munudau’n brin i Gymry’r Uwch Gynghrair ddydd Sul hefyd. Gwyliodd Tyler Roberts fuddugoliaeth Leeds yn erbyn Burnley o ochr y cae ac ar y fainc yr oedd Neco Williams i Lerpwl yn erbyn West Brom.
Dim ond un o Gymry Tottenham a ddechreuodd eu gêm hwy yn Wolves nos Sul, Ben Davies yn chwarae fel un o dri yn y cefn, safle sydd yn fwy cyfarwydd iddo yng nghrys coch Cymru nag yn lifrau Spurs.
Ni wnaeth hynny ei atal rhag creu argraff yng nghwrt cosbi’r gwrthwynebwyr serch hynny, yn gosod y gôl agoriadol i Tanguy Ndombele wedi dim ond munud o chwarae. Dyma goroni wythnos i’w chofio i Davies wedi iddo sgorio chwip o gôl yn erbyn Stoke yn rownd go-gynderfynol Cwpan y Gynghrair ganol wythnos.
Fe sgoriodd Gareth Bale yn y gêm honno hefyd ond cafodd ei dynnu i ffwrdd ar hanner amser ac nid oedd yn y garfan ar gyfer y gêm hon yn y gynghrair. Eilydd a oedd Joe Rodon.
*
Y Bencampwriaeth
Wedi i gêm Bournemouth a Millwall gael ei gohirio oherwydd achosion Covid-19, roedd gan Abertawe gyfle euraidd i godi i’r ddau uchaf wrth deithio i orllewin Llundain i wynebu QPR.
Dyna’n union a wnaeth yr Elyrch gan ennill o ddwy gôl i ddim yn Loftus Road gyda Ben Cabango a Connor Roberts yn chwarae yn yr amddiffyn.
Gwrthwynebwyr o orllewin Llundain a oedd gan Gaerdydd yn Stadiwm y Ddinas hefyd ond colli fu eu hanes hwy er gwaethaf gôl aruthrol Will Vaulks. Rhoddodd chwaraewr canol cae Cymru yr Adar Gleision ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf gydag ergyd anhygoel o hanner ei hun!
Yn anffodus i Gaerdydd fe rwydodd Sergi Canos hatric ail hanner wrth i’r ymwelwyr daro nôl, gan olygu mai gôl gysur yn unig a oedd ail un Vaulks chwarter awr o’r diwedd. Chwaraeodd Harry Wilson y gêm gyfan a daeth Mark Harris oddi ar y fainc am y 25 munud olaf.
Ond anghofiwch am Gaerdydd ac Abertawe, tîm Stoke sydd o fwyaf o ddiddordeb i gefnogwyr Cymru ar hyn o bryd! Roedd Joe Allen ar y fainc wrth iddynt wynebu Coventry yn St Andrew’s ac fe ddaeth oddi arni i chwarae hanner awr olaf y gêm ddi sgôr. Newyddion da o lawenydd mawr a ddaeth i’r holl fyd.
Chwaraeodd James Chester i’r Potters hefyd wrth i’w record amddiffynnol dda barhau. Ond mae aelod pwysig arall o’r amddiffyn hwnnw, Morgan Fox, yn wynebu cyfnod allan o’r tîm ar ôl anafu llinyn y gar yn y gêm gwmpan yn erbyn Spurs ganol wythnos.
Diwrnod siomedig a oedd hi fel arall i Gymry’r Bencampwriaeth ar Ŵyl San Steffan. Colli o ddwy gôl i un a fu hanes Tom Lockyer a Rhys Norrington-Davies gyda Luton yn Reading, a’r un a oedd y sgôr wrth i Wycombe Joe Jacobson golli yn Bristol City.
*
Cynghreiriau is
Cafodd hanner gemau’r Adran Gyntaf eu gohirio oherwydd achosion o Covid-19.
O’r gemau i oroesi, yr un rhwng Charlton a Plymouth yn y Valley a oedd o fwyaf o ddiddordeb i gefnogwyr Cymru. Rhoddodd Luke Jephcott yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond chwe munud cyn i Chris Gunter, o bawb, unioni pethau i’r tîm cartref; dim ond seithfed gôl yr amddiffynnwr sydd wedi chwarae dros chwe chant o gemau yn ei yrfa!
Mae Jephcott wedi sgorio mwy na hynny yn y ddeufis diwethaf. Y Cymro ifanc a roddodd Plymouth yn ôl ar y blaen yn y gêm hon, ei ail o’r gêm a’i ddegfed yn y deuddeg gêm ddiwethaf. Gwyliwch y gofod efo hwn.
Dechreuodd Adam Matthews a Jonny Williams y gêm i Charlton hefyd, ac yn wir, pas gan Matthews a arweiniodd at gôl wych Ian Maatsen a achubodd gêm gyfartal iddynt.
Cymro arall i serennu ddydd Sadwrn a oedd Brennan Johnson. Mae ei dîm, Lincoln, bellach ar frig yr Adran Gyntaf ar ôl chwalu Burton o bum gôl i un. Sgoriodd Johnson ddwy a chreu un arall yn y fuddugoliaeth gyfforddus ac mae bellach wedi sgorio pedair gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf.
Roedd buddugoliaeth a llechen lân i Regan Poole yn amddiffyn MK Dons yn erbyn Brisol Rovers.
Wes Burns a beniodd Fleetwood ar y blaen yn Crewe cyn i’r tîm cartref daro nôl i gipio pwynt. A gem gyfartal a gafodd Tom James gyda Wigan hefyd wrth iddynt groesawu’r Amwythig i Stadiwm DW.
Roedd gêm gyfartal gôl yr un yn Crawley yn ddigon i gadw Casnewydd ar frig yr Ail Adran. Dechreuodd Brandon Cooper, Liam Shephard a Josh Sheehan i’r Alltudion ac roedd ymddangosiad prin rhwng y pyst i Tom King wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd hanner amser yn lle Nick Townsend.
*
Yr Alban a thu hwnt
Cododd Aberdeen i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn St. Johnstone ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ash Taylor a Ryan Hedges, gyda’r amddiffynnwr, Taylor, yn sgorio’r gôl fuddugol.
Mae Dunfermline yn ail ym Mhencampwriaeth yr Alban ar ôl curo Arbroath o gôl i ddim diolch i lechen lân Owain Fôn Williams.
Nid yw gwledydd y cyfandir yn rhannu obsesiwn Ynys Prydain o chwarae tomen o bêl droed dros yr ŵyl felly cafodd Aaron Ramsey, Robbie Burton, Rabbi Matondo a James Lawrence fwynhau’r Nadolig fel pawb arall!
Gwilym Dwyfor