Mae prif hyfforddwyr y Gweilch a’r Scarlets wedi mynegi rhwystredigaeth ynghylch perfformiadau eu timau ar ôl i’r Scarlets guro’r Gweilch o 16-14 yn y gêm ddarbi fawr yn y PRO14 ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 26).

Cafodd y gêm ei symud i Barc y Scarlets gan fod cae Stadiwm Liberty yn cael ei ailosod yn dilyn problemau â chyflwr y glaswellt.

Daeth buddugoliaeth y Scarlets wrth i Angus O’Brien groesi am gais hwyr.

Sgoriodd y mewnwr Reuben Morgan-Williams gais i’r Gweilch yn yr hanner cyntaf, a chiciodd y maswr Stephen Myler dair cic gosb i roi’r flaenoriaeth i’w dîm.

Ciciodd Dan Jones drosiad a thair cic cosb cyn i O’Brien groesi i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Yr ymateb

“Do’n i byth yn meddwl ein bod ni wedi rheoli,” meddai Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch.

“Roedd hi’n ymgodymiad breichiau ar y gorau ac rydych chi’n disgwyl hynny mewn gêm ddarbi.

“Roedd llawer o bethau y gallen ni fod wedi’u rheoli’n well.

“Os ydych chi’n gwahodd pwysau yn erbyn tîm da, maen nhw’n mynd i’ch cosbi chi.

“Y peth gwych oedd ein bod ni’n fwy cystadleuol ac roedd yn gyfle da i ddysgu.

“Y peth torcalonnus oedd ein bod ni wedi cael cyfle i ennill ond wnaethon ni ddim.”

Yn ôl Glenn Delaney, prif hyfforddwr y Scarlets, mae yna sawl elfen mae angen gweithio arnyn nhw.

“Fe wnaethon ni aros yn y gêm a dyna sydd rhaid i chi ei wneud mewn gêm ddarbi,” meddai.

“Roedd llawer o bethau positif yn yr ystyr hynny ond roedd pethau i weithio arnyn nhw hefyd.

“Roedden ni’n edrych braidd yn rhydlyd ond fe wnaethon ni ddarganfod ffordd o aros yn y frwydr.”