Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd yr ymosodwr Jamal Lowe ar ôl iddo fe sgorio’i bedwaredd gôl mewn pedair gêm.

Mae’r Elyrch yn ail yn y Bencampwriaeth ar ôl curo QPR o 2-0 – canlyniad sy’n gadael y Saeson â brwydr i oroesi yn y gynghrair ar ôl bod heb fuddugoliaeth mewn wyth gêm.

Ond mae’r Elyrch yn mynd am ddyrchafiad unwaith eto, ar ôl colli allan yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor diwethaf.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig i Jamal sgorio mewn gemau olynol,” meddai Cooper am ei ymosodwr.

“Roedd hi’n gôl wych.

“Rhedodd Jamal i mewn o’r tu ôl a dangos ei fod yn ddigynnwrf a bod ganddo fe dechneg dda i sgorio, ac fe wnaeth iddi edrych yn haws nag yr oedd hi.

“Pan ydych chi’n chwarae yn y safle hwnnw, rydych chi bob amser am gael eich barnu ar sail goliau a chynorthwyo goliau.

“Ar hyn o bryd, mae’r ymosodwyr yn chwarae’n dda.

“Maen nhw’n gwybod fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i sgorio pan ddaw cyfleoedd ac mae’n rhaid iddyn nhw gadw fynd.

“Dw i’n bles iawn â’r fuddugoliaeth.

“Roedd hi’n gêm dynn yn yr hanner cyntaf a rheoli’r gêm oedd yn bwysig yn yr ail hanner.

“Fe wnaethon ni amddiffyn yn dda ac fe wnaethon ni ymosod hefyd, ac roedden ni’n teimlo y byddai lle i sgorio ail gôl – ac fe dalodd hynny ar ei ganfed.

“Roedd yn berfformiad da iawn eto.

“Roedd yn fuddugoliaeth dda ac roedden ni’n broffesiynol iawn wrth fynd o’i chwmpas hi.”