Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud nad oes ganddo fe “ddim geiriau” i ddisgrifio colled ei dîm o 3-2 yn erbyn Brentford ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 26).

Sgoriodd y Cymro Will Vaulks ddwy gôl i’r Adar Gleision, un yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf a’r llall ar ôl 75 munud.

Ond sgoriodd Sergi Canos hatric o fewn 23 munud yn yr ail hanner i’r ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Am 49 munud, ro’n i’n meddwl ein bod ni’n blydi gwych,” meddai Harris.

“Roedd ein disgyblaeth heb y bêl a’n cynllun chwarae yn berffaith.

“Fe wnaethon ni eu cynnal nhw i’r nesaf peth i ddim ac roedden ni’n gyfforddus yn y gêm.

“Fe gawson ni gôl o safon fyd-eang gan Will Vaulks ac yna fe wnaethon ni daflu tair gôl i mewn i’n rhwyd ein hunain – does gen i ddim geiriau, wir.

“Y ffordd ry’n ni’n mynd ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y ddau uchaf.

“Y nod ar ddechrau’r tymor oedd cyrraedd y chwech uchaf a dyna lle’r ydyn ni eisiau bod.”

Cysondeb

Mae Neil Harris yn galw am gysondeb yn y gemau sydd i ddod.

Bydd yr Adar Gleision yn herio Wycombe nos Fawrth (Rhagfyr 29) a Rotherham ddydd Sadwrn (Ionawr 2).

“Rhaid i ni ymateb yn erbyn Wycombe nos Fawrth a Rotherham ddydd Sadwrn, oherwydd rydyn ni eisiau adeiladu momentwm a chysondeb,” meddai.

“Ac eithrio ennill pedair gêm allan o bump, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw fath o gysondeb drwy gydol y tymor.

“Rhaid i ni fynd i’r afael â hynny’n gyflym.”