Mae ras Grand National Cymru yng Nghas-gwent wedi cael ei gohirio oherwydd Storm Bella.

Roedd disgwyl i’r ras gael ei chynnal heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 27), ond daeth y penderfyniad i’w gohirio ar ôl archwilio’r tir.

Dywedodd yr archwilydd fod 27mm o law wedi cwympo dros nos, a’i bod yn dal yn bwrw’n gynnar bore heddiw.

Y gobaith yw y bydd modd cynnal y ras ar ddiwrnod arall sydd heb ei gadarnhau eto.