Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd yr ail frechlyn Covid-19, a gafodd ei gymeradwyo’r bore yma, yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o ddydd Llun ymlaen.

Mae Llywodraeth Prydain wedi sicrhau tua 100 miliwn o frechlyn AstraZeneca Rhydychen ar gyfer y pedair gwlad, a bydd Cymru’n cael dyraniad seiliedig ar boblogaeth.

Mae brechlyn Pfizer BioNTech, a gafodd ei gadarnhau ddechrau’r mis, eisoes wedi dechrau cael ei roi i staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â phreswylwyr a staff cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Mae cyfanswm o tua 30,000 o bobl wedi derbyn y brechlyn hwn.

Mantais fawr brechlyn AstraZeneca Rhydychen, fodd bynnag, yw bod modd ei storio ar dymheredd oergell arferol. Mae hyn yn  ei gwneud yn llawer haws i’w ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol fel cartrefi gofal a lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.

“Mae’r cyhoeddiad am gymeradwyo brechlyn AstraZeneca Rhydychen i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn gam sylweddol ymlaen ac yn gam rydym yn ei groesawu yn rhaglen frechu COVID,” meddai Vaughan Gething.

Rhybuddiodd fodd bynnag, na fydd effaith y brechlyn i’w weld am rai misoedd ac y bydd y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn parhau yn ystod y gaeaf hwn.

“Rydym yn deall bod disgwyliadau uchel a chyffro am yr ail frechlyn yn cyrraedd ond bydd yn cymryd amser i gyrraedd pawb ac nid yw hwn yn ateb ar unwaith,” meddai. “Ni fyddwn yn derbyn yr holl ddosys ar unwaith ac mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â graddfa a chyflymder y ddarpariaeth.

“Mae’n hanfodol o hyd ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan a dilyn y rheolau i warchod ein gilydd. I helpu’r Gwasanaeth Iechyd, arhoswch i gael eich gwahodd i gael eich brechu.”

Yn y cyfamser, cafodd 2,281 o achosion newydd o’r coronafeirws eu cadarnhau dros y cyfnod 24-awr diwethaf, gan godi’r cyfanswm i 146, 706. Fe fu farw 13 yn rhagor o gleifion o’r haint dros yr un cyfnod gan godi cyfanswm y marwolaethau i 3,429.