Mae’r cytundeb Brexit yn “fargen wael” i Gymru sy’n cael ei rhuthro drwy’r senedd er mwyn osgoi craffu manwl arno, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Roedd Liz Saville Roberts yn siarad yn y ddadl ar y cytundeb yn Nhy’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, 30 Rhagfyr).

“Mae’r Torïaid a Llafur wedi gweithio law yn llaw i wneud pob dewis arall yn amhosib,” meddai. “Mae’n pleidlais ni heddiw felly wedi ei diraddio i ymarferiad symbolaidd sy’n gwneud sofraniaeth yn ddiystyr.

“Fe fydd ffermwyr Cymru sy’n gwerthu eu cig oen i’r Undeb Ewropeaidd nawr yn wynebu gwaith papur cymhleth a gwiriadau newydd ar gynnyrch.

“Er bod llawer o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros Brexit, wnaeth neb bleidleisio dros y difrod enfawr y bydd y cytundeb Torïaidd yma’n ei achosi nac i Gymru golli ei llais wrth lunio’n dyfodol.

“Bydd Plaid Cymru’n sefyll dros fuddiannau pobl Cymru ac yn pleidleisio yn erbyn y fargen wael hon.”

Fe fydd AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, ymysg yr ASau Llafur a fydd yn mynd yn groes i’w harweinydd ac yn ymatal eu pleidlais. “Mae’n gytundeb gwael a fydda i ddim yn pleidleisio drosto,” meddai.