Mae’r cytundeb masnach a gafodd ei drafod rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd wedi cael ei gadarnhau’n derfynol wrth iddo dderbyn cydsyniad brenhinol ychydig wedi hanner nos neithiwr.

Fe fydd yn dod i rym am 11 o’r gloch heno (nos Iau 31 Rhagfyr), pryd y daw cyfnod pontio Brexit i ben.

Roedd y cytundeb eisoes wedi cael ei arwyddo’n ffurfiol gan y Prif Weinidog Boris Johnson yn gynharach ddoe.

Roedd hyn ar ôl i’r cytundeb gael ei basio gan Dŷ’r Cyffredin, wrth i’r Llywodraeth geisio rhuthro’r mesur drwy’r Senedd mewn un diwrnod.

Ar ôl ychydig dros bedair awr o ddadl, pleidleisiodd ASau o 521 i 73 o blaid y cytundeb a gafodd ei gyhoeddi noswyl y Nadolig.

Cafodd ei gymeradwyo’n ddiweddarach gan Dy’r Arglwyddi neithiwr cyn cael ei anfon at y Frenhines am gydsyniad brenhinol, a gafodd ei gyhoeddi am 12.25am.

Y bleidlais ddoe

Fe wnaeth 359 o ASau Ceidwadol ac 162 o ASau Llafur gefnogi’r mesur. Mae’n ymddangos fod 36 AS Llafur wedi gwrthod dilyn cyfarwyddyd eu harweinydd ac wedi ymatal.

Roedd y rhai a bleidleisiodd yn erbyn yn cynnwys un AS Llafur, 44 o’r SNP, 11 Democrat Rhyddfrydol, 8 DUP, 3 Plaid Cymru, 2 SDLP, 1 Gwyrdd, 1 Alliance a 2 AS Annibynnol.

AS Gwyr yn ymddiswyddo

Mae AS Gwyr, Tonia Antoniazzi, yn un o ddwy aelod i ymddiswyddo o fainc flaen Llafur mewn protest yn erbyn penderfyniad ei phlaid i gefnogi’r cytundeb.

“Fe wnes i addo i’m hetholwyr i beidio â phleidleisio dros ddim a fyddai’n eu gwneud nhw’n dlotach,” meddai yn ei llythyr at Syr Keir Starmer.

“Dyw’r cytundeb hwn yn ddim byd tebyg i’r hyn sy’n cael ei werthu i’r cyhoedd.

“Fe fydd yr iaith, ymddygiad a’r amarch mae’r wlad wedi gorfod ei ddioddef oddi wrth y llywodraeth yma yn parhau os byddwn ni’n cymeradwyo eu gweithredoedd mewn unrhyw ffordd.”

Aelod Seneddol Llafur arall o Gymru a wrthododd gefnogi’r mesur oedd aelod Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan.

Senedd Cymru’n nodi … a’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gwrthod

Yn y cyfamser, fe wnaeth aelodau Senedd Cymru gefnogi cynnig gan Lafur a oedd yn ‘nodi’ y cytundeb, ond nid ei gymeradwyo, o 28 i 24.

Roedd yr unig AoS Democrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi cefnogi gwelliant gan Blaid Cymru i bleidleisio yn erbyn y cytundeb.

Mae senedd yr Alban ar y llaw arall wedi pleidleisio o 92 i 30 i wrthod cydsyniad i’r mesur. Wrth agor y ddadl yno, apeliodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon ar yr aelodau i bleidleisio ar fater o egwyddor yn erbyn “Brexit niweidiol mae pobl yr Alban wedi’i wrthod o’r dechrau.”

“Mae llais yr Alban wedi cael ei anwybyddu o’r dechrau, bob cam o’r ffordd,” meddai.

“Rydym yn haeddu gwell na dewis truenus rhwng cytundeb affwysol o wael a dim cytundeb o gwbl.”

Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi pleidleisio o 47 i 38 o blaid cynnig gan yr SDLP yn datgan gwrthwynebiad i Brexit ac yn gwrthod rhoi cydsyniad i’r cytundeb masnach.