Mae Samariaid Cymru, yr elusen ar gyfer cefnogi iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, wedi cyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys safbwyntiau pobol sydd â phrofiad o hunan-niweidio, darparwyr gwasanaethau cymorth a’r cyhoedd.

Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 5,500 o bobol yn ymweld â’r ysbyty oherwydd hunan-niweidio.

A’r llynedd derbyniodd llinell gymorth 24 awr hunan-niweidio y Samariaid dros 272,000 o alwadau – sef un alwad bob dwy funud.

Dywedodd yr elusen bod yr adroddiad newydd yn pwysleisio’r angen i ddeall anghenion pobol sydd wedi hunan-niweidio a nodi cyfleoedd i wella ansawdd y cymorth sydd ar gael.

Mae’r Samariaid yn galw am i gymorth a therapïau iechyd meddwl fod ar gael yn haws i bobol sydd wedi hunan-niweidio.

Canfu’r ymchwil fod pobl sydd wedi hunan-niweidio yng Nghymru yn cael eu heithrio o wasanaethau gan nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth iechyd meddwl.

Yn ôl y Samariaid mae hyn yn golygu yw nad yw pobol yn cael cynnig cymorth yn gynnar, sydd yn ei dro yn golygu eu bod yn profi lefelau mwy difrifol o drallod ac ymddygiad hunan-niweidio.

Stigma

Amlygodd yr ymchwil hefyd sut y gall stigma sy’n ymwneud â hunan-niweidio greu rhwystrau i helpu ffrindiau a theulu i chwilio am gymorth.

Canfu arolwg o dros 900 o oedolion yng Nghymru bod llai na hanner (47%) yn dweud y byddent yn gwybod sut i gefnogi rhywun sy’n agos atynt, pe byddent yn hunan-niweidio.

Hefyd dangosodd yr arolwg na fyddai bron i draean (31%) o oedolion yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â’u partner na’u teulu agos am hunan-niweidio, tra mai dim ond 39% fyddai’n teimlo’n gyfforddus yn siarad amdano gyda ffrindiau.

Mae bron i ddau draean (62%) o’r cyhoedd yng Nghymru yn dweud na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall am hunan-niweidio.

“Pobol yng Nghymru yn wynebu rhwystrau i dderbyn y gefnogaeth gywir”

Dywedodd Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru: “Mae ein hymchwil yn amlygu bod pobol yng Nghymru yn wynebu rhwystrau i dderbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.

“Mae mynediad at ymyriadau amserol gan wasanaethau priodol yn aml yn anodd eu sicrhau ac mae’r trothwyon ar gyfer gofal yn uchel.

“Nid yw pobl yn cael cynnig cymorth yn ddigon cynnar, sydd yn ei dro yn arwain at brofi lefelau mwy difrifol o drallod ac ymddygiad hunan-niweidio”.

“Anogwn unrhyw un sydd angen cymorth i ofyn amdano”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:

“Rydym yn croesawu’r adroddiad diweddaraf hwn gan y Samariaid yng Nghymru a byddwn yn ei ystyried wrth inni fwrw ymlaen â’n cynllun gweithredu ar gyfer Cymru i atal hunanladdiadau a hunan-niweidio, ‘Beth am Siarad â Fi?’

“Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio nid yn unig ar godi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r hyn y mae pobl yn ei brofi ond hefyd yn ceisio gwella’r ymatebion a’r gefnogaeth sydd ar gael ar lefel leol a chenedlaethol.

“Rydym wedi cryfhau trefniadau cydweithredu cenedlaethol a rhanbarthol yn ddiweddar, yn ogystal ag adnewyddu ein Cynllun Cyflawni Llaw yn Llaw at Iechyd Meddwl oherwydd rydym yn deall bod y coronafeirws yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl ac emosiynol a lles pobl yng Nghymru.

“Byddwn yn parhau i fonitro effeithiau’r pandemig ar hunan-niweidio a hunanladdiadau ac rydym wedi buddsoddi bron i £10m mewn adnoddau ychwanegol yn 2020/21 i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael gan ganolbwyntio ar gefnogaeth hawdd i’w derbyn. Anogwn unrhyw un sydd angen cymorth i ofyn amdano.

“Rydym hefyd wedi penodi Gweinidog penodol ar gyfer iechyd meddwl gan bwysleisio ein bwriad i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod modd i bobl gael gafael ar y gefnogaeth a’r driniaeth addas pan fyddant eu hangen.”