Fe wnaeth yr heddlu yng Nghymru ddirywio dros 300 o bobol am dorri rheolau coronafeirws dros y Nadolig.
Drwyddi draw ers i’r epidemig gychwyn mae 3,585 wedi eu dirwyo.
Yn ystod cynhadledd i’r Wasg amser cinio ddydd Gwener, Ionawr 8, datgelodd y Prif Weinidog fod cannoedd o geir wedi eu stopio dros gyfnod yr ŵyl.
“Bydd yr ymdrech yma i gynnal y rheolau a dirwyo yn parhau,” meddai Mark Drakeford.
“Doedd yr un ohonom eisiau dechrau’r flwyddyn newydd dan glo – ond er pa mor anodd a heriol yw’r wythnosau cyntaf yma, gallwn edrych ymlaen at 2021 gwell a llwybr allan o’r pandemig.”
Dros 3,500 o ddirywion ers dechrau’r pandemig
Yn ôl ffigurau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu maen nhw wedi dirywio mwy na 3,585 o bobol yng Nghymru am dorri cyfreithiau coronafeirws ers dechrau’r pandemig.
Mae hyn yn cymharu â 28,744 o ddirwyon gan yr heddlu yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod rhwng Mawrth 27 a Rhagfyr 21 2020.
Mae’r ffigurau’n cynnwys y dirwyon a roddwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain a heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn.