Mae arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys wedi rhannu ei bryder ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y sector lletygarwch, ac yn dweud bod nifer o bobol fusnes wedi cysylltu yn dilyn cyhoeddi’r cyfyngiadau diweddara’.
Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan mae pryder mawr am y diffyg eglurder ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i fusnesau.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Gwener Ionawr 8, byddai’r cyfyngiadau presennol yn parhau mewn lle am dair wythnos arall.
Golyga hyn bydd y sector lletygarwch, busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau yn ystod y cyfnod yma.
‘Busnesau yn gorfod cau am byth’
“Y pryder yw, oherwydd iddynt gael eu gorfodi i gau am chwech yr hwyr ddechrau mis Rhagfyr, mai dim ond y sector manwerthu sydd wedi eu cynnwys yn y cymorth sydd ar gael, cyfnod sydd wedi’i ymestyn o Ragfyr 20 ymlaen yn hytrach na chael ei drin fel cyfnod newydd o gyfyngiadau,” meddai Elwyn Vaughan.
“O ganlyniad, mae pryder bydd rhaid i lawer o fusnesau yn y sector lletygarwch gau am byth oni bai bod cymorth grant newydd yn cael ei gadarnhau [ar gyfer y cyfnod] o Ragfyr 20.
“Mae llawer o fusnesau Sir Drefaldwyn wedi cysylltu â mi sy’n wynebu’r dyfodol llwm hwnnw heb gymorth brys. Fel arfer, roedd masnach y Nadolig yn eu cadw i fynd tan y Gwanwyn, ond heb ddim i wneud fyny am hynny mae peryg mawr am eu dyfodol.”
Eglurodd y Cynghorydd ei fod wedi codi’r mater gyda’r Aelod o’r Senedd Helen Mary Jones, fydd yn ei thro yn tynnu sylw Ken Skates, y Gweinidog Economaidd, at y mater.
“Mae’r busnesau hyn yn hanfodol ar gyfer bywiogrwydd ein cymunedau yn y tymor hir ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael cymorth ar unwaith,” ychwanegodd Elwyn Vaughan.
Pa gymorth sydd ar gael?
Yn dilyn cyhoeddiad gwreiddiol Llywodraeth Cymru y byddai clo mawr yn dod i rym ar Ragfyr 28, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau.
Mae’r cyllid yn ychwanegol i’r £340m o gymorth i fusnesau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd fis Tachwedd.
Fodd bynnag daeth i’r amlwg ddydd Mawrth Ionawr 6 nad oedd grant ychwanegol o £227 miliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rishi Sunak i gefnogi busnesau drwy’r gwanwyn, yn arian ychwanegol wedi’r cyfan, ond yn rhan o’r £5.2 biliwn sydd eisoes wedi’i roi i Lywodraeth Cymru i ddelio â’r pandemig.
Darllen mwy:
- Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws
- £227m ‘ychwanegol’ i gefnogi busnesau Cymru drwy’r gwanwyn
- Liz Saville Roberts yn cyhuddo Canghellor San Steffan o “gamddehongli” cyllideb Cymru “yn fwriadol”
- Coronafeirws: £110m o gymorth ychwanegol i fusnesau