Mae ymchwil yn dangos bod mwy yn ymrwymo i fwyta prydau llysieuol eleni, a bwyta llai o gig.

Fe gafodd 2,000 o oedolion eu holi ac mae’r ymchwil yn dangos bod bron i draean (31%) yn bwriadu bwyta mwy o fwydydd llysieuol yn 2021.

A thra bod pedwar o bob 10 yn poeni am yr amgylchedd, mae eraill yn poeni mwy am greu argraff ar gyfryngau cymdeithasol.

Veganuary yn gyfle i “roi cynnig ar rywbeth newydd”

Mae un o bob pump am gael eu gweld yn cymryd rhan yn Veganuary, tra nad yw 45% yn teimlo bod angen bwyta cig bob dydd ac mae 39% yn cydnabod bod opsiynau da ar gael heb orfod bwyta cig erbyn hyn.

Ar gyfartaledd, roedd oedolion yn amcangyfrif y bydd mwy na chwarter eu prydau bwyd ym mis Ionawr yn rhai heb gig – sy’n cyfateb i 1,255,500,000 o brydau bwyd.

A dywedodd y rhai gafodd eu holi mai mis Ionawr oedd y mis y maen nhw’n disgwyl bwyta’r mwyaf o fwydydd llysieuol, a hynny oherwydd Veganuary – sef yr ymgyrch i roi’r gorau i fwyta cig, a chadw at ddeiet figan, trwy gydol mis Ionawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Rustlers, a gomisiynodd yr ymchwil: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi croesawu ffyrdd newydd o fyw ac wedi mabwysiadu gwahanol agweddau tuag at y bwyd rydym yn ei bwyta.

“Wrth gwrs, does dim rhaid i chi roi’r gorau i fwyta cig i fwynhau byrbryd neu bryd llysieuol, ac mae’n ymddangos bod mwy o bobol yn hyblyg neu’n ‘flexiterians’ yn 2021.

“Mae mis Ionawr wastad yn amser poblogaidd i roi cynnig ar leihau faint o gig rydym yn ei fwyta, gyda nifer o bobol yn debygol o fod yn ymgymryd â Veganuary neu’n ceisio defnyddio’r Flwyddyn Newydd fel amser i roi cynnig ar rywbeth newydd.”