Mae un o gynghorau Cymru wedi cychwyn ymgyrch newydd i annog trigolion i gadw’n heini er gwaetha’r cyfyngiadau covid.

Bwriad ymgyrch ‘Milltir y Dydd’ Cyngor Powys ar y cyfryngau cymdeithasol, yw cael pobol i seiclo, rhedeg neu gerdd o leiaf milltir bob dydd ym mis Ionawr.

A does dim angen hyd’noed gadael y cartref i wneud y filltir – mae cerdded, rhedeg neu seiclo yn yr unfan yn cyfrif.

Mae’r cyngor yn annog pobol i dynnu lluniau o’u hymarferion corfforol, i’w rhannu ar y We dan yr hashnod #MoveAMile.

Iach o gorff, iach o feddwl

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Pobl Ifanc, Diwylliant a Hamdden: “Mae angen i bob un ohonom ailffocysu ar ein lles corfforol a meddyliol, tra’n parhau i gadw at y cyfyngiadau presennol a chyn belled nad ydych yn gorfod hunan-ynysu, yna mae cymaint o resymau da dros fynd allan a mwynhau’r awyr iach.

“Nid yw hi erioed o’r blaen wedi bod yn bwysicach i gadw’n heini a thrwy ymrwymo’n benodol i drefn bob dydd, neu neilltuo amser yn eich diwrnod, bydd hyn yn gwneud i chi deimlo’n llawer gwell.

“Beth bynnag yw eich oedran, eich galluoedd neu’ch amgylchiadau, mae cymaint o ffyrdd i gadw i symud ac mae Chwaraeon Powys yn rhannu ffyrdd diogel ac arloesol o gadw’n heini yn rheolaidd.

“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr ymgyrch “Milltir y Dydd” yn ysbrydoli llawer ohonom, dros yr wythnosau nesaf.”