Mae Manchester United wedi cwtogi cyfnod Dylan Levitt ar fenthyg yn Charlton.

Symudodd i The Valley yn ffenestr drosglwyddo’r haf, a hynny am y tymor cyfan – ond dim ond pum ymddangosiad y mae wedi’u gwneud i’r Addicks gyda’r olaf o’r rheini’n ôl ym mis Tachwedd.

Mae Levitt wedi chwarae cymaint o gemau dros Gymru ag i Charlton yr ymgyrch hon – gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ym mis Medi.

Bellach, mae’n ôl yn Old Trafford yn dilyn penderfyniad United i weihredu’r cymal ‘galw yn ôl’.

Dywedodd rheolwr Charlton, Lee Bowyer, wrth wefan swyddogol y clwb: “Mae Dylan yn fachgen proffesiynol ac yn bêl-droediwr talentog iawn.

“Hoffwn ddiolch i Nicky Butt a Manchester United am ganiatáu i ni ddod â Dylan i mewn ar fenthyg. Gweithiodd yn galed yn ystod ei gyfnod yma a dymunwn y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”