Fe ffurfiodd 4 o bob 10 oedolyn swigen Nadolig i ddathlu’r ŵyl y llynedd, yn ôl ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd teuluoedd ar draws gwledydd Prydain wedi gobeithio manteisio ar bum diwrnod o lacio’r cyfyngiadau i gwrdd ag aelodau o’r teulu a ffrindiau dan do.
Yn ogystal â hyn doedd 18 miliwn o bobl oedd yn byw mewn ardaloedd Haen 4 yn Lloegr ddim yn cael cwrdd â phobl y tu allan i’w cartrefi o gwbl.
Dadansoddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol 3,756 o ymatebion gan oedolion 16 oed a throsodd o Gymru, Lloegr a’r Alban rhwng Rhagfyr 22 ac Ionawr 3, a holwyd 2,320 o bobl am eu gweithgareddau diwrnod Nadolig.
Y prif ganfyddiadau:
- 55% heb adael eu cartref ar ddiwrnod Nadolig
- 44% o oedolion yng Nghymru wedi ffurfio swigen ar ddiwrnod Nadolig
- 20% wedi ymweld â theulu neu ffrindiau yn eu cartrefi ond heb aros dros nos
- 15% wedi derbyn ymwelwyr nad oeddent yn aros dros nos
- 5% wedi aros gyda theulu neu ffrindiau am o leiaf un noson
- 3% wedi croesawu ymwelwyr i’w cartref i aros dros nos
Roedd un o bob pump o oedolion a holwyd (18%) yn dweud eu bod wedi ei chael hi’n anodd neu yn anodd iawn dilyn rheolau’r Llywodraeth yn ystod cyfnod yr ŵyl.
85% yn dweud eu bod yn debygol o gael y brechlyn
Mae’r ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn debygol neu’n debygol iawn o gael y brechlyn coronafeirws.
Fis Rhagfyr roedd 78% yn debygol o’i gael – bellach mae hyn wedi cynyddu i 85%.
Dywedodd 7% o oedolion eu bod yn annhebygol iawn neu’n weddol annhebygol o gael brechlyn pe baent yn cael eu cynnig.
Mae mwyafrif o’r rhain yn dweud mai’r rheswm am hyn yw eu bod yn poeni am yr sgil-effeithiau a’r effaith hirdymor ar eu hiechyd.