Mae Caerdydd allan o gystadleuaeth Cwpan yr FA ar ôl colli 1-0 i Nottingham Forest.

Llai na thri munud a gymerodd hi i Lyle Taylor sgorio unig gôl y gêm.

Er hyn, fe wnaeth Caerdydd ymateb yn gryf, gan reoli’r cae am y rhan fwyaf o’r hanner cyntaf heb roi llawer o bwysau ar eu golwr Jordan Smith. Fe wnaethon nhw ddal ati i ymosod ar ôl yr egwyl hefyd, ond methu’r gôl a wnaeth ergydion gan Josh Murphy a Harry Wilson. Yn y pen draw profodd amddiffyn Notts Forest yn rhy gryf i’r ymwelwyr.