Mae Abertawe drwodd i bedwaredd rownd Cwpan yr FA ar ôl buddugoliaeth rwydd 2-0 yn erbyn Stevenage.

Gyda pheniad yr un gan Wayne Routledge a Viktor Gyokeres, fe wnaeth goliau’r Elyrch ar ddechrau’r naill hanner a’r llall sicrhau na fu’r tîm cartref yn ddim bygythiad iddyn nhw.

Colli 5-1 i QPR a wnaeth Abertawe yn y cam hwn o’r gystadleuaeth n y llynedd, ond roedd pethau’n wahanol iawn heddiw.

Fe wnaeth Routledge benio croesiad Yan Dhanda i’r rhwyd ar y seithfed munud – 10 mlynedd a diwrnod ar ôl iddo chwarae yn y gêm Gwpan FA dros Newcastle a gollodd ar yr un cae.

Dechreuodd Stevenage yr ail hanner yn dda, ond bum munud wedi’r egwyl daeth ail gôl Abertawe wrth i Gyokeres benio croesiad Jordan Garrick.

Gallai’r tîm cartref fod wedi tynhau’r sgôr naw munud cyn y diwedd wrth i Stevenage gael cic o’r smotyn, ond cafodd ymgais yr ergydiwr Luke Norris ei harbed yn wych gan Freddie Woodman.