Mae cwmni darlledu yn Awstralia wedi ymddiheuro ar ôl i ddau sylwebydd gael eu clywed yn gwneud sylwadau am Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, ac am gyflwr Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD).

Roedd gêm yn y Big Bash rhwng Adelaide Strikers a Melbourne Renegades yn cael ei dangos pan oedd Shane Warne ac Andrew Symonds yn gwneud sylwadau am ei ddull batio wrth y llain wrth wylio gêm Awstralia yn erbyn India ar sgrîn fach yn y blwch sylwebu, ac yn ei gymharu â rhywun â’r cyflwr.

Roedd y ddau yn cael eu darlledu ar wasanaeth Kayo, sy’n gysylltiedig â Fox Sports, pan oedden nhw’n cael sgwrs, gan gredu nad oedden nhw ar yr awyr ar y pryd.

Dywedodd Warne fod ei ddull batio’n “ddiflas”, cyn ychwanegu, “Jyst ff**** batia’n gywir”, cyn i Symonds trafod dull ffiaidd o’i gosbi.

Mae ymgyrchwyr ar ran pobol sydd â’r cyflwr wedi beirniadu’r sylwadau.

Ymddiheuriad

Ar ôl i fideo ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, mae cwmni Kayo wedi ymddiheuro, gan gynnig eglurhad.

“Fe wnaeth ein ffrwd ddechrau’n gynnar ac fe ddaliodd rai sylwadau annerbyniol,” meddai.

“Ar ran @kayosports a’r tîm sylwebu, rydym yn ymddiheuro’n ddi-ben-draw.”

Hiliaeth

Nid dyma’r unig helynt ym myd criced yn Awstralia ar hyn o bryd.

Mae Criced Awstralia’n cynnal ymchwiliad ar ôl i chwech o gefnogwyr gael eu hanfon o’r SCG yn Sydney am sarhau chwaraewr mewn modd hiliol ar bedwerydd diwrnod y trydydd prawf rhwng Awstralia ac India.

Fe wnaeth Mohammed Siraj, un o chwaraewyr India, gwyno wrth y dyfarnwyr am ymddygiad carfan o bobol yn y dorf wrth iddo fe faesu ar y ffin.

Cafodd yr heddlu a swyddogion diogelwch eu galw, ac fe gafodd y chwech eu hanfon o’r stadiwm.

Roedd cynrychiolwyr o dîm India wedi bod yn cwyno cyn hynny am ymddygiad y dorf.

Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) hefyd wedi beirniadu’r digwyddiad.