Cafodd Liam Williams ei anfon o’r cae ar ôl 37 munud wrth i’r Gleision guro’r Scarlets o 29-20 yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 9).

Roedd y Scarlets yn mynd am gamp lawn o fuddugoliaethau mewn gemau darbi dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Ond cafodd eu gobeithion eu chwalu wrth i’r chwaraewr rhyngwladol ruthro i mewn i dacl ar y blaenasgellwr Shane Lewis-Hughes â’i ben mewn sgarmes.

Cafodd y drosedd ei gweld gan y dyfarnwr fideo, ac fe gafodd e gerdyn coch.

Roedd y Scarlets eisoes dan bwysau erbyn hynny, gyda maswr y Gleision Jarrod Evans yn rheoli’r gêm ar ddiwedd wythnos gythryblus i ranbarth y brifddinas yn dilyn ymadawiad y prif hyfforddwr John Mulvihill a phenodiad y cyn-brif hyfforddwr Dai Young yn Gyfarwyddwr Rygbi dros dro.

Daeth ceisiau’r Gleision gan Willis Halaholo, Tomos Williams a Rey Lee-Lo, gydag Evans hefyd yn cicio pedair cic gosb a throsiad.

Sgoriodd Jonathan Davies a Sione Kalamafoni geisiau’r Scarlets, wrth i Leigh Halfpenny gicio dau drosiad a chic gosb, gyda Dan Jones hefyd yn cicio cic gosb.

Cafodd prop y Gleision Rhys Carré gerdyn melyn hefyd am daclo heb ei freichiau.