Ciciodd Stephen Myler 13 o bwyntiau wrth i’r Gweilch guro’r Dreigiau o 28-20 yn Rodney Parade neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 9).

Bu’n rhaid i’r Gweilch frwydro’n galed am y fuddugoliaeth ar noson rewllyd, gyda’r sgôr yn gyfartal 12 munud cyn y diwedd.

Ond ciciodd Myler gic gosb dyngedfennol a chroesodd Scott Otten am gais hwyr i selio’r fuddugoliaeth.

Cael a chael oedd hi drwy gydol y gêm, ac fe aeth y Gweilch i lawr i 14 dyn yn yr hanner cyntaf ar ôl i’r asgellwr Luke Morgan daro’r bêl ymlaen yn fwriadol, ac fe fanteisiodd y Dreigiau ar y sefyllfa i alluogi’r asgellwr Jared Rosser i groesi am gais a’r sgôr yn 10-3 gyda’r trosiad.

Sgoriodd Mat Protheroe gais cyn i’r Dreigiau ddychwelyd i 15 dyn, a’r trosiad gan Myler yn unioni’r sgôr unwaith eto.

Aeth y Gweilch ar y blaen eto drwy gic gosb Myler cyn yr egwyl ond roedd y sgôr yn gyfartal unwaith eto ar ôl awr diolch i’r maswr Josh Lewis.

Roedd y Gweilch ar y blaen eto o fewn munudau wrth i George North groesi am gais a gafodd ei drosi gan Myler, a’r sgôr bellach yn 17-10 i’r ymwelwyr.

Tarodd y Dreigiau’n ôl drwy Jamie Roberts, gyda Lewis yn cicio’r trosiad i’w gwneud hi’n 17-17.

Ond daeth y pwyntiau tyngedfennol oddi ar droed Myler unwaith eto a chais hwyr gan Otten yn y gornel yn rhoi’r gêm y tu hwnt i afael y Dreigiau.