Roedd hi’n drydedd rownd Cwpan FA Lloegr y penwythnos hwn ac er gwaethaf effaith gynyddol Covid-19 a’r tywydd ar y calendr pêl droed, fe oroesodd y rhan helaeth o’r gemau.

Mae’n arferol bellach i reolwyr wneud llu o newidiadau i’w timau ar gyfer gemau cwpan felly pa Gymru a gafodd orffwys y penwythnos hwn a phwy gafodd gyfle prin i greu argraff?

 

Cwpan FA (nos Wener)

Stori fawr y noson a oedd gêm Aston Villa y erbyn Lerpwl. Oherwydd nifer o achosion o Covid-19 yng ngharfan y tîm cyntaf, fe chwaraeodd Villa’r gêm gyda’u tîm dan 23, sy’n cael ei reoli gan gyn gefnwr dde Cymru, Mark Delaney.

Enillodd cyn chwaraewr Caerfyrddin, Caerdydd a Villa 36 cap i’w wlad ar droad y ganrif ac roedd y sylw a ddaw gyda gêm yn erbyn Lerpwl yn ddigon o esgus i dyrchu’r clip hwn o’i unig gôl i’r Adar Gleision o’r archif.

Cefnwr de arall a oedd yn fuddugol ar y noson serch hynny; Neco Williams yn chwarae 90 munud i Lerpwl wrth iddynt ennill yn gymharol gyfforddus o bedair i un yn y diwedd yn dilyn hanner cyntaf cyfartal.

*

Cwpan FA (dydd Sadwrn)

Mae Abertawe yn y bedwaredd rownd ar ôl trechu Stevenage o ddwy gôl i ddim ddydd Sadwrn. Cafodd Connor Roberts ei orffwys ond chwaraeodd Ben Cabango yn yr amddiffyn wrth ochr Cymro ifanc arall, Cameron Evans, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf.

Dychwelodd Liam Cullen i’r tîm yn dilyn cyfnod allan gyda Covid-19, yn dod oddi ar y fainc i chwarae’r 25 munud olaf. Roedd ychydig funudau i Oliver Cooper hefyd, mab cyn chwaraewr Caerdydd, Casnewydd a Chastell Nedd, Kevin Cooper.

Dychwelodd Cooper arall i’r Liberty yr wythnos hon hefyd, Brandon, yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus ar fenthyg gyda Chasnewydd. Colled fawr i’r Alltudion a bydd hi’n ddiddorol gweld os gaiff ei gyfle gan Steve Cooper.

Mae Caerdydd allan o’r Cwpan ar ôl colli o gôl i ddim yn Nottingham Forest. Dechreuodd Harry Wilson a Will Vaulks y gêm a chafodd Mark Harris ychydig funudau oddi ar y fainc.

Un o arwyr y drydedd rownd a oedd Chris Maxwell. Wedi i’w dîm, Blackpool o’r Adran Gyntaf, gael gêm gyfartal yn erbyn West Brom o’r Uwch Gynghrair, fe arbedodd cyn golwr Wrecsam dair cic o’r smotyn i sicrhau lle ei dîm yn y bedwaredd rownd. Ie, tair, a hynny yn ei gêm gyntaf yn ôl ar ôl dioddef gyda Covid-19 dros y Nadolig.

Cymro arall i serennu yn y Cwpan, fel y maen ei wneud bron bob wythnos yn y Bencampwriaeth, a oedd David Brooks. Enillodd Bournemouth o bedair gôl i un yn erbyn Oldham, diolch yn rhannol i gôl agoriadol Brooks, ergyd isel gywir o ugain llath.

Roedd ymddangosiad prin i Joe Morrell wrth i Luton guro Reading. Chwaraeodd 90 munud yng nghanol y cae ac roedd chwarter awr oddi ar y fainc i Rhys Norrington-Davies hefyd yn y fuddugoliaeth o gôl i ddim.

Enillodd Sheffield United am y tro cyntaf mewn chwe mis wrth iddynt ymweld â Bristol Rovers. Tair gôl i ddwy a oedd y sgôr, gydag Ethan Ampadu yn chwarae yn yr amddiffyn eto.

Dechreuodd Dan James i Man Utd yn erbyn Watford a’i ergyd gynnar ef a arweiniodd at y gic gornel a greodd unig gôl y gêm i Scott McTominay.

Er gwaethaf trafferthion Wycombe yn y Bencampwriaeth, cawsant fuddugoliaeth gyfforddus wrth groesawu Preston yn y Cwpan. Nid oedd golwg o Ched Evans yn nhîm yr ymwelwyr yn dilyn ei symudiad o Fleetwood ond fe chwaraeodd Andrew Hughes. Pedair gôl i un a oedd y sgôr terfynol, gyda Joe Jacobson yn sgorio ail Wycombe o’r smotyn ac Alex Samuel yn rhwydo’r bedwaredd.

O un o gynhyrchion academi Aberystwyth at un arall, mae Luke Jephcott yn cael tymor i’w gofio gyda Plymouth yn yr Adran Gyntaf ac roedd canlyniad da i’w dîm yn y Cwpan wrth iddynt ennill yn erbyn Huddersfield o’r Bencampwriaeth. Mae Jephcott wedi sgorio toreth o goliau’r tymor hwn eisoes ond creu un a wnaeth yn y gêm hon gyda phas dreiddgar i Ryan Hardie.

Roedd buddugoliaeth i Tom Bradshaw a Millwall yn Boreham Wood ond colli a fu hanes George Thomas gyda QPR yn erbyn Fulham.

Cyfartal a oedd hi ar ôl dwy awr o chwarae rhwng Burnley a’r MK Dons ar Turf Moor ond colli a fu hanes y tîm o’r Adran Gyntaf ar giciau o’r smotyn er i Regan Poole lwyddo gyda’i gynnig ef.

Ychwanegodd Stoke Gymro arall i’w carfan yr wythnos hon wrth arwyddo Rabbi Matondo ar fenthyg o Schalke. Daeth yr asgellwr oddi ar y fainc i chwarae’r hanner awr olaf wrth i’w dîm newydd golli o bedair gôl i ddim yn erbyn Caerlŷr. Chwaraeodd Joe Allen a Sam Vokes y gêm gyfan i’r Potters.

Un o ganlyniadau mwyaf nodedig y drydedd rownd oedd buddugoliaeth Chorley o’r chweched haen yn erbyn Derby o’r Bencampwriaeth, er mai tîm dan 23 Derby ydoedd oherwydd Covid-19 yng ngharfan y tîm cyntaf. Un o eilyddion Chorley a oedd Adam Henley (cofio fo?) ac fe ddaeth ymlaen am ugain munud olaf y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim.

Daeth dau gap Henley i’w wlad yn 2015 a 2016, fymryn yn fwy diweddar na un Jake Taylor, yn 2014. Ef yw cpaten Exeter erbyn hyn ac roedd yn y tîm wrth iddynt golli yn erbyn Sheffield Wednesday y penwythnos hwn.

*

Cwpan FA (dydd Sul)

Roedd George Ray yn nhîm Tranmere a gollodd yn Barnsley a chwaraeodd Ellis Harrison hanner awr olaf colled Portsmouth yn erbyn Bristol City.

Roedd gêm fawr y diwrnod heb os ar Lannau Merswy wrth i Marine, sydd yn chwarae yn wythfed haen y pyramid, groesawu’r cewri, Tottenham Hotspur.

Roedd sawl wyneb cyfarwydd i ddilynwyr Uwch Gynghrair Cymru yn nhîm Marine; Anthony Miley, James Joyce, Adam Hughes, Josh Hmami, Danny Shaw a Ryan Wignall. Ond y Cymry yn nhîm Spurs a oedd o ddiddordeb mwyaf i gefnogwyr Cymru.

Dechreuodd Joe Rodon yng nghanol yr amddiffyn a gadwodd lechen lân gyfforddus tu hwnt a chafwyd perfformiad awdurdodol fel cefnwr chwith a chapten gan Ben Davies. Dychwelodd Gareth Bale i’r tîm yn dilyn salwch hefyd ond roedd tîm Jose Mourinho wedi sgorio pob un o’u pum gôl cyn iddo ddod i’r cae toc wedi’r awr.

Ben Davies

Mae gan Gasnewydd hanes diweddar cyfoethog iawn yn y gystadleuaeth hon ac roeddynt yn awyddus i achosi sioc arall wrth groesawu Brighton i Rodney Parade yn y gêm hwyr. Dechreuodd Tom King, Liam Shephard a Josh Sheehan i’r Alltudion ac roedd ymddangosiadau oddi ar y fainc i Lewis Collins a Jack Evans.

Ar ôl iddi orffen yn un gôl yr un wedi 90 munud, fe wnaeth King arbediad gwych i’w chadw hi’n gyfartal yn yr amser ychwanegol a gorfodi ciciau o’r smotyn. Arbedodd ddwy o’r rheiny hefyd ond yn anffodus fe fethodd pedwar o’i gyd chwaraewyr, gan gynnwys Sheehan a Shephard, eu ciciau hwy a Brighton a aeth â hi, pedair i dair.

*

Cynghreiriau is

Roedd gêm gynghrair i’r ambell dîm yn yr adran Gyntaf a oedd eisoes allan o’r Cwpan. Yn eu mysg, Charlton, a groesawodd Accrington i’r Valley nos Wener.

Parhau y mae rhediad siomedig diweddar tîm Lee Bowyer wedi iddynt golli o ddwy gôl i ddim. Chwaraeodd Chris Gunter y gêm gyfan ac roedd hanner awr oddi ar y fainc i Jonny Williams. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Adam Matthews ac fel y disgwyl, mae cyfnod anffrwythlon Dylan Levitt ar fenthyg gyda’r Addicks wedi dod i ben yn gynnar.

Mae Brennan Johnson a Lincoln yn aros ar frig y tabl yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Peterborough ddydd Sadwrn.

Ildiodd Dave Cornell deirgwaith yn y gôl i Ipswich wrth iddynt golli gartref yn erbyn Swindon ac ar ôl dechrau’r gêm, fe gafodd Emyr Huws ei eilyddio ar hanner amser.

*

Yr Alban a thu hwnt

Dechreuodd Ash Taylor a Ryan Hedges wrth i Aberdeen groesawu Rangers i Pittodrie yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sul. Ond 25 munud yn unig a barodd gêm Hedges, y Cymro’n derbyn cerdyn coch am droseddu Alfredo Morelos fel yr oedd y Columbiad yn paratoi i saethu yn y cwrt cosbi.

Nid yw Hibs Christian Doidge na Dunfermline Owain Fôn Jones yn chwarae tan nos Lun a nos Fawrth.

Nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli ddydd Sadwrn ac ar y fainc yr oedd Aaron Ramsey wrth i Juventus groesawu Sassuolo yn Serie A nos Sul.

Fu dim rhaid i Rambo aros yn hir am ei gyfle serch hynny, yn dod i’r cae wedi deunaw munud oherwydd anaf i Weston McKennie. A gyda’r sgôr yn gyfartal wyth munud o ddiwedd y naw deg, y Cymro a sgoriodd y gôl holl bwysig i ennill y gêm. Ychwanegodd Christiano Ronaldo un arall wedi hynny i gymryd y clod i gyd, tair i un y sgôr terfynol.

 

Gwilym Dwyfor