Mae disgwyl i Bencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched gael ei gohirio tan fis Ebrill.
Mae’r bencampwriaeth fel arfer yn cael ei chynnal yr un pryd a chystadleuaeth y dynion, sydd yn dechrau ar Chwefror 6.
Fodd bynnag gan fod y rhan fwyaf o chwaraewyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal yn amatur, mae hyn wedi achosi problemau yn ymwneud â phrofi, ffurfio swigod a theithio.
Mae gan Loegr dîm merched proffesiynol, tra bod tîm merched Ffrainc yn lled-broffesiynol.
Bu rhaid canslo tair gêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched y llynedd oherwydd y coronafeirws.
“Mae llawer o waith i’w wneud er mwyn cynllunio Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched sy’n ystyried mesurau diweddaraf sy’n datblygu’n gyflym ym mhob gwlad,” meddai llefarydd ar ran y Chwe Gwlad.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol am drefniant y bencampwriaeth yn fuan.
Mae’r gystadleuaeth yn ddechrau ar flwyddyn gyffrous i rygbi merched wrth i dimau baratoi ar gyfer Cwpan y Byd, sydd i fod i gael ei chynnal yn Seland Newydd fis Medi.
Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd ac Awstralia yn y gystadleuaeth honno.
Pryderon am gystadleuaeth y dynion
Yn y cyfamser mae pryderon o’r newydd am gystadleuaeth y dynion.
Mae trefnwyr y Chwe Gwlad wedi trefnu cyfarfodydd brys i geisio argyhoeddi llywodraeth Ffrainc y gall y bencampwriaeth fynd yn ei blaen yn ddiogel.
Mae dwy rownd o gemau Cwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her Ewrop ddiwedd fis Ionawr eisoes yn y fantol wrth i awdurdodau ystyried effaith yr amrywiolyn newydd o Covid-19.
Mae disgwyl i’r Scarlets deithio i Toulon yn Ffrainc ar Ionawr 15 ac mae’r Dreigiau i fod i groesawu Bordeaux-Begles i Gasnewydd ar Ionawr 17.
Pe bai rhaid gohirio rhai o’r gemau mae prif weithredwr Rygbi Proffesiynol Ewrop, Vincent Gaillard, yn hyderus y gellir cwblhau’r gemau ym mis Ebrill a mis Mai.