Mae trefnwyr rygbi Ewrop (EPCR) wedi cadarnhau bod Cwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her wedi cael eu hatal dros dro.

Daw’r penderfyniad ar ôl i lywodraeth Ffrainc ddweud na ddylai cybiau chwarae yn y gystadlaethau fis Ionawr.

Mae penaethiaid y twrnamaint yn gobeithio y gall y ddwy rownd o gemau gael eu haildrefnu’n ddiweddarach.

Gemau rhanbarthau Cymru sydd wedi eu gohirio:

  • Toulon v Scarlets, Ionawr 15
  • Y Gweilch v Caerwrangon, Ionawr 15
  • Stade Francais v Gleision Caerdydd, Ionawr 16
  • Dreigiau v Bordeaux-Begles, Ionawr 17
  • Castres v Y Gweilch, Ionawr 22
  • Scarlets v Caerfaddon, Ionawr 23
  • Wasps v Y Dreigiau, Ionawr 23
  • Gleision Caerdydd v Newcastle, Ionawr 23

“Yng nghyd-destun canfod amrywiolyn newydd o’r coronafeirws yn ddiweddar, mae llywodraeth Ffrainc wedi dweud na fydd clybiau Ffrainc yn chwarae yn nhwrnameintiau EPCR ar gyfer mis Ionawr,” meddai EPCR mewn datganiad.

“Mae hyn yn effeithio’r gemau a drefnwyd yn Ffrainc a’r gemau sydd i’w chwarae yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

“Ar sail hyn, nid oedd gan EPCR ddewis ond atal Cwpan Pencampwyr Heineken dros dro a chyfnod rhagarweiniol y Cwpan Her.

“Wrth barchu pob cyfarwyddeb gan lywodraethau ac awdurdodau lleol, a blaenoriaethu iechyd a lles chwaraewyr a staff clybiau, EPCR, gynghreiriau a’i undebau, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i geisio dod o hyd i ateb a fydd yn ein galluogi i ailddechrau a chwblhau’r twrnamentau cyn gynted a phosib.”

Yn y cyfamser mae pryderon yn parhau am gystadleuaeth y Chwe Gwlad sydd i fod i ddechrau ar Chwefror 6.

Mae trefnwyr y Chwe Gwlad wedi trefnu cyfarfodydd brys i geisio argyhoeddi llywodraeth Ffrainc y gall y bencampwriaeth fynd yn ei blaen yn ddiogel.

Disgwyl i bencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched gael ei gohirio

Gan fod y rhan fwyaf o chwaraewyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal yn amatur mae problemau wedi codi yn ymwneud â phrofi a ffurfio swigod