Mae ymosodwr AFC Wimbledon, Adam Roscrow, wedi dychwelyd i Gymru i ymuno â’r Seintiau Newydd.

Ymunodd Roscrow â’r Dons ym mis Gorffennaf 2019 ar ôl cyfnod llwyddiannus gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ond dim ond 22 ymddangosiad wnaeth y chwaraewr 25 oed yn ne-orllewin Llundain, 17 o’r rheini fel eilydd. Sgoriodd ddwywaith yn Nlws Papa John.

“Yn y tymor cyntaf doedd anafiadau ddim yn help gan na chafodd y cyfnod cyn-dymor llawn i gael yr effaith yr oedd angen iddo ei chael,” meddai rheolwr y Dons, sef cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Glyn Hodges.

“Mae wedi disgyn i lawr y rhestr yma o ran y blaenwyr. Mae’n debyg fod y tymor hwn wedi bod braidd yn rhwystredig iddo.”

Mae Roscrow wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda’r Seintiau Newydd, gyda’r clwb yn cadarnhau eu bod wedi talu eu ffi uchaf erioed amdano.

“Mwy o siawns o bêl-droed Ewropeaidd”

Dywedodd Cadeirydd TNS, Mike Harris: “Hwn fydd y trosglwyddiad arwyddocaol cyntaf, ond nid yr olaf.”

“Rydym wedi bod yn ddarbodus fel clwb, ac wrth i ni fanteisio ar yr hinsawdd ariannol bresennol, rydym am barhau i adeiladu, nid yn unig i’r Seintiau Newydd ond hefyd i bêl-droed Cymru gyfan. Rydym wedi dod mor bell yn yr ugain mlynedd diwethaf ond mae llawer i’w wneud eto.”

“Mae arwyddo Adam Roscrow hefyd yn anfon neges i ddarpar fuddsoddwyr. Beth am fuddsoddi mewn pêl-droed yng Nghymru? Rydych chi’n cael mwy am eich arian ac mae mwy o siawns o bêl-droed Ewropeaidd.”

“Rwy’n falch iawn o ymuno â TNS,” meddai Roscrow, “ac mae dod i glwb lle mae’r rheolwr eisiau chi yn fonws enfawr. Fe wnaeth yr uchelgais, fel clwb, ac ansawdd chwaraewyr yn y garfan, fy nenu hefyd.”