Mae Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd wedi cadarnhau bod yr amddiffynnwr, Sol Bamba, yn dioddef o Lymffoma di-Hodgkin (Non-Hodgkin lymphoma).

Dywedodd yr Adar Gleision mewn datganiad: “Rydym yn drist o hysbysu cefnogwyr bod Sol Bamba wedi cael diagnosis o lymffoma di-Hodgkin.⁣

“Gyda chefnogaeth agos tîm meddygol y Clwb, mae Sol wedi dechrau cwrs o driniaeth cemotherapi ar unwaith.⁣

“Mae Sol wedi dechrau ei frwydr gyda’i ysbryd cadarnhaol nodweddiadol a bydd yn parhau i fod yn rhan annatod o deulu’r Adar Gleision. Yn ystod ei driniaeth, bydd Sol yn cefnogi ei gyd-chwaraewyr mewn gemau a’n chwaraewyr iau yn yr Academi, a bydd yn parhau â’i ddatblygiad hyfforddi.”

“Rydyn ni gyd gyda ti, Sol.”