Bydd tîm pêl-droed Abertawe’n wynebu Nottingham Forest ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr am gyfle i herio Manchester City yn y bumed rownd.

Bydd gêm y bedwaredd rownd yn cael ei chynnal ar Ionawr 23.

Mae’r Elyrch yn y bedwaredd rownd ar ôl curo Stevenage o 2-0 oddi cartref.

Dyma’r tro cyntaf i Abertawe wynebu Nottingham Forest yn y gystadleuaeth ers 1929, ac roedden nhw’n fuddugol yn yr ornest gynghrair yn gynharach y tymor hwn a hynny o 2-1.

Bydd Manchester City yn herio Cheltenham yn y bedwaredd rownd, gyda’r buddugwyr yn herio’r Elyrch yn y rownd nesaf.