Mae Tomas Francis, prop tîm rygbi Cymru, yn ymuno â’r Gweilch ar gytundeb tair blynedd.

Mae’n golygu y bydd e’n gymwys i gynrychioli Cymru unwaith eto ar ôl dychwelyd o Gaerwysg yn Lloegr.

Mae’r prop 28 oed wedi ennill 52 o gapiau dros ei wlad – wyth yn llai na’r trothwy ar gyfer chwaraewyr sy’n chwarae y tu allan i Gymru er mwyn iddyn nhw gael chwarae dros eu gwlad.

Bydd e’n ymuno â’r rhanbarth yn yr haf.

“Fe wnes i siarad â rhanbarthau Cymru ond fe wnaeth gweledigaeth y prif hyfforddwr Toby Booth greu argraff arna i o ran lle mae e am fynd â’r Gweilch,” meddai Tomas Francis.

“Roedd ei sylw i fanylder a’i wybodaeth am fy ngêm, yn ogystal â’r hyn ddywedodd e a Duncan Jones wrtha i wedi apelio.

“Mae Toby a’r hyfforddwyr yno yn dechrau llywio’r llong yn y cyfeiriad cywir.

“Mae’n her gyffrous i fi a galla i weld y potensial yno ac oddi ar y cae, mae yna gynhaliwr [ariannol] newydd yno ac mae’n gyffrous cael gweld lle mae hynny’n mynd â’r Gweilch.

“Mae’r bois dw i’n eu nabod yng ngharfan Cymru i gyd wedi siarad yn bositif am yr hyn sy’n digwydd yn y Gweilch ac mae’n ymddangos yn lle sy’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

“Fe wnaeth y Gweilch jyst sefyll allan i fi fel y rhanbarth sy’n mynd i rywle.

“Dw i’n nabod llawer o’r bois yno o garfan Cymru ac mae nifer o fois ifainc talentog yn y garfan ynghyd â thipyn o brofiad a gwybodaeth.

“Dw i’n gwybod y bydd cystadleuaeth go iawn am y crys ac mae angen hynny arnom ni i gyd fel chwaraewyr.

“Bydd ymuno â’r Gweilch yn fy ngalluogi i barhau i chwarae dros Gymru, rhywbeth nad o’n i’n barod i’w ildio, ond er mwyn gwneud hynny dw i’n gwybod fod rhaid i fi berfformio ac ennill fy lle gyda’r Gweilch.

“Bydd perfformio dros y Gweilch yn rhoi’r cyfle i fi gael fy newis ar gyfer rygbi ryngwladol.

“Dw i’n dal i fod yn uchelgeisiol ac yn awyddus i barhau i wella a dw i’n gweld mai’r Gweilch yw’r lle perffaith i wneud hynny.”

‘Oes newydd’

Yn ôl Toby Booth, mae’n “oes newydd” yn hanes y Gweilch.

“Yn ein hoes newydd ac o ran y daith rydyn ni arni, mae’n bwysig ein bod ni’n dangos uchelgais ac ysfa i ddatblygu ein chwaraewyr ein hunain,” meddai.

“Mae denu prop pen tynn rhyngwladol cyfredol a chanddo hanes a meddylfryd o ennill yn helpu’r Gweilch i gymryd y camau sydd eu hangen arnom ac i danio’r uchelgais nawr ac ar gyfer y dyfodol tymor hir.

“Mae penderfyniad Tom i ymuno â ni’n arwydd gwych o’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud ac yn dangos y bwriad a’r ymrwymiad i’r hyn rydyn ni am fod fel Gweilch.

“Mae e wedi ennill anrhydeddau Ewropeaidd a domestig ac fe fydd yn dod â chyfoeth o brofiadau a gallu enfawr o ran chwarae gosod i’n carfan.

“Bydd ei rinweddau’n amhrisiadwy wrth symud ymlaen wrth i ni baratoi ar gyfer yr heriau newydd a ddaw yn sgil y gystadleuaeth PRO16 newydd.”