Mae un o’r prif hyfforddwyr pêl-droed Americanaidd mwyaf llwyddiannus erioed wedi gwrthod anrhydedd arlywyddol gan Donald Trump.
Mae Bill Belichick, prif hyfforddwr y New England Patriots, yn dweud na fydd e’n derbyn Medal Ryddid yr Arlywydd yn dilyn terfysgoedd Washington.
Y fedal yw’r anrhydedd fwyaf sy’n cael ei rhoi i aelodau o’r cyhoedd yr Unol Daleithiau.
Er ei fod yn dweud ei fod yn “parchu’r hyn mae’r anrhydedd yn ei olygu” a’i fod yn “edmygu derbynwyr blaenorol”, mae’n dweud ei fod e wedi penderfynu peidio â “symud ymlaen gyda’r wobr” yn dilyn “digwyddiadau trasig yr wythnos ddiwethaf”.
Eglurhad
“Yn anad dim, dinesydd Americanaidd ydw i ac mae gennyf barch mawr at werthoedd, rhyddid a democratiaeth ein cenedl,” meddai.
“Dw i’n gwybod fy mod i hefyd yn cynrychioli fy nheulu a thîm y New England Patriots.
“Fe ddigwyddodd un o’r pethau mwyaf boddhaol yn fy ngyrfa broffesiynol yn 2020 pan gafodd sgyrsiau eu cynnal, trwy ein harweinwyr gwych yn y tîm, ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol ac fe ddaethon nhw’n weithredoedd.
“Mae parhau â’r ymdrechion hynny wrth aros yn ffyddlon i’m pobol, i’m tîm a’m gwlad yn pwyso’n drymach nag unrhyw wobr unigol.”
Uchelgyhuddo Donald Trump
Fe fyddai Bill Belichick wedi gorfod teithio i Washington i dderbyn yr anrhydedd yn ystod yr wythnos pan fydd gwleidyddion yn trafod uchelgyhuddo’r Arlywydd Donald Trump os na chaiff ei symud o’i swydd gan ei ddirprwy Mike Pence.
Mae’r Democratiaid wedi cyflwyno dogfennau i ddechrau’r broses o uchelgyhuddo’r arlywydd, a hynny am yr ail waith yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Daw’r broses yn sgil rhan yr arlywydd yn y terfysgoedd yn adeilad y Capitol.
Ei statws yn y gêm
Sawl gwaith yn ystod ei gyfnod yn arlywydd, mae Donald Trump wedi gwneud sylwadau’n gyhoeddus am safiad chwaraewyr pêl-droed Americanaidd wrth iddyn nhw ‘gymryd y ben-glin’.
Fe wnaeth e feirniadu Colin Kaepernick, un o’r chwaraewyr mwyaf blaenllaw oedd heb sefyll ar gyfer yr anthem genedlaethol yn y SuperBowl fel rhan o brotest yn erbyn anghydraddoldeb.
Ac fe ddywedodd y byddai’n well ganddo pe na bai’r NFL – y gynghrair genedlaethol – yn agor ar ôl y coronafeirws “os nad ydyn nhw’n sefyll ar gyfer yr anthem genedlaethol”.
Y fedal a’i phwysigrwydd yn y byd chwaraeon
Cafodd y fedal ei chyflwyno gan yr Arlywydd John F Kennedy yn 1963 i anrhydeddu’r sawl sydd wedi gwneud cyfraniad allweddol i ddiogelwch neu fywyd yr Unol Daleithiau, heddwch byd-eang neu i fywyd cyhoeddus ehangach yn y wlad.
Mae Bill Belichick, sy’n gyfaill i’r arlywydd, yn aelod o Gyngor yr Arlywydd ar Chwaraeon, Ffitrwydd a Maeth ers 2018.
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi derbyn y wobr mae Lou Holtz, yr hyfforddwr pêl-droed Americanaidd, a’r golffwyr Babe Didrikson Zaharias, Gary Player ac Annika Sorenstam.
Daeth Bill Belichick i wybod am ei anrhydedd cyn yr ymosodiad ar y Capitol, ac roedd pwysau arno ar unwaith i’w gwrthod wedi’r ymosodiad.
Mae’n aml yn cael ei enwi gan y Gweriniaethwyr wrth iddyn nhw sôn am ddewrder.