Mae Trevor Birch, cyn-brif weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe, yn rhybuddio y gallai gemau orfod dod i ben pe bai clybiau a chwaraewyr yn parhau i dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae modd i chwaraeon elit barhau fel rhan o gyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Prydain, er bod cyfraddau’r feirws yn dal yn uchel drwy wledydd Prydain.

Ond mae Trevor Birch, sydd bellach yn brif weithredwr y Gynghrair Bêl-droed, yn rhybuddio y gallai’r gêm ddod o dan bwysau sylweddol pe bai chwaraewyr a chlybiau’n “parhau i anwybyddu’r rheolau”, a hefyd pe bai nifer y profion positif yn cynyddu.

Torri’r rheolau

Roedd sawl achos o dorri’r rheolau wedi effeithio ar drydedd rownd Cwpan FA Lloegr dros y penwythnos.

Fe wnaeth QPR gyfaddef na ddylen nhw fod wedi rhoi caniatâd i’w cyn-chwaraewr Eberechi Eze fynd i wylio’u gêm yn erbyn Fulham.

Ac roedd dathliadau Crawley wrth guro Leeds yn erbyn rheolau pellter cymdeithasol.

Rhybudd

“Drwy gydol y pandemig, mae pêl-droed wedi cynnig llygedyn o obaith i filiynau o bobol sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau ond rydym oll yn deall y pwysau craffu mae’r gêm yn ei wynebu o hyd ac fe fyddwn yn dod dan bwysau sylweddol gan y llywodraeth pe baen ni’n parhau i anwybyddu’r rheolau,” meddai Trevor Birch mewn llythyr at yr holl glybiau.

“Tra bod pêl-droed wedi’i chaniatáu i barhau, bydd gweithredoedd yr holl gyfranogwyr yn amlwg dan y chwyddwydr, boed mewn ardaloedd technegol, cytiau’r rheolwyr neu mewn perthynas ag ymddygiad cyffredinol a chyfathrebu rhwng chwaraewyr ar y cae ac oddi arno.”

Mae’n dweud bod rhaid i glybiau ymchwilio’n fanwl i achosion o dorri’r rheolau, gan rybuddio y bydd methu â gwneud hynny’n arwain at gamau yn erbyn chwaraewyr a chlybiau gan y gynghrair.

Profi

O’r wythnos hon, fe fydd rhaid i chwaraewyr a staff clybiau’r Gynghrair Bêl-droed gael dau brawf bob wythnos.

Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol fydd yn ariannu’r profion.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r profion diweddaraf gael eu cyhoeddi ar Ionawr 19.

Mae gemau’r Uwch Gynghrair hefyd wedi cael eu heffeithio, gyda rhai wedi’u gohirio yn sgil y coronafeirws, tra bod nifer o chwaraewyr dan y lach am ddod ynghyd â phobol eraill dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.