Mae cefnogwyr rygbi’r Llewod wedi sefydlu deiseb yn galw am ohirio’r daith i Dde Affrica yn hytrach na symud y gyfres i wledydd Prydain.

Mae amheuon am y daith o ganlyniad i’r coronafeirws a’r amrywiolyn newydd yn Ne Affrica ac yn sgil cyfyngiadau teithio fydd yn cael effaith ar gefnogwyr.

Un awgrym yw symud y gyfres i wledydd Prydain, gyda Chymru, Lloegr ac Iwerddon yn cynnal y gemau prawf.

Ond byddai’n well gan y 1,450 o gefnogwyr sydd wedi llofnodi’r ddeiseb weld y daith yn cael ei gohirio hyd nes y bydd yn ddiogel iddyn nhw fynd i Dde Affrica.

Mae disgwyl penderfyniad fis nesaf a fydd y daith yn cael ei gohirio, ei symud neu fod gemau’n cael eu cynnal heb dorf.

Y ddeiseb

Yn ôl Mark Gardner, awdur y ddeiseb ar wefan Change.org, dylai undebau rygbi Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon “wneud y peth iawn” a chytuno i ohirio’r daith tan 2022.

Byddai hynny, meddai, yn blaenoriaethu’r cefnogwyr “ar draul anghenion teithiau haf eu gwledydd eu hunain”.

Mae’n dweud bod cynnig symud y gyfres i wledydd Prydain “nid yn unig yn bychanu hanes teithio cyfoethog y Llewod, ond yn amddifadu cefnogwyr, stadiymau, busnesau ac isadeiledd twristiaeth cyfan De Affrica o’r cyfle i gynnal, creu argraff ac elwa o’r 30,000 o gefnogwyr y mae disgwyl iddyn nhw ddilyn tîm teithiol a gwahoddedigion mwyaf angerddol y byd”.

Yn ogystal, mae’n dweud y byddai cwmnïau teithio’n wynebu “pwysau sylweddol o ran colledion” pe bai’r dyddiad yn cael ei newid ac nad oes sicrwydd y byddai cefnogwyr yn cael mynd i gemau pe baen nhw’n cael eu cynnal yng ngwledydd Prydain.

“Yr hyn sy’n gwneud y Llewod yn arbennig, yr hyn sy’n gwneud y Llewod yn unigryw, yw’r grym sydd ganddyn nhw i demtio 30,000 a mwy o gefnogwyr rygbi angerddol o Ynysoedd Prydain ac Iwerddon i fynd ar bererindod chwaraeon i ben draw’r byd.”