Roedd dros 350,000 o bobl yng Nghymru (18%) yn rhedeg ar gyfer eu hymarfer corff dyddiol yn ystod y cyfnod clo y llynedd.
Wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfnod clo llym arall cyn y Nadolig i fynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws, mae campfeydd wedi cau unwaith eto, ac nid oes hawl gan glybiau rhedeg ddod at ei gilydd.
Mae Rhedeg Cymru felly wedi dechrau ymgyrch newydd, ‘O Fy Nrws’, er mwyn annog rhedwyr tro cyntaf, cerddwyr chwim a rhedwyr profiadol i redeg.
Mae’r ymgyrch yn gobeithio annog 500,000 o bobol i ddefnyddio eu drws ffrynt fel man cychwyn i gael awyr iach, ymarfer corff ac amser i feddwl.
‘Rhedeg wedi fy helpu drwy’r cyfnod clo’
“Bum mlynedd yn ôl, roeddwn yn cael trafferth gyda fy mhwysau a iechyd meddwl, ond yna rhoddais gynnig ar redeg,” meddai Josie Rhisiart, Arweinydd Rhedeg Cymru yn Ynys Môn.
“A rŵan? Ni allwch fy rhwystro! Mae rhedeg wedi fy helpu’n aruthrol trwy gydol y cyfnod clo ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld pobl fel fi – y rhai nad oeddent yn gweld eu hunain fel rhedwyr – yn disgyn mewn cariad ag ef.
“Er na allwn redeg gyda’n gilydd ar hyn o bryd, rydym yn dal i ysgogi ein gilydd a rhannu lluniau, llwybrau a straeon rhedeg.
“Fy nghyngor i yw dechrau’n araf a bod yn garedig â chi’ch hun – byddwch chi’n synnu at yr hyn y gallwch chi ei wneud.”
‘Dianc o’r pedair wal’
Mae James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru, wedi annog pobol i fynd i redeg yn ystod y cyfnod clo diweddaraf.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf ein cartrefi yw ein swyddfeydd, ysgolion, nosweithiau i mewn a nosweithiau allan,” meddai.
“Ond mae ein drysau ffrynt yn cynnig y bloc cychwyn gorau i ddianc o’r pedair wal a gwella ein hiechyd meddwl a’n lles.
“Mae popeth ‘lleol’ yn bwysicach nag erioed ac mae gennym ni gymuned enfawr o grwpiau rhedeg sy’n cynnig cefnogaeth 365 diwrnod y flwyddyn. P’un a ydych chi’n ei redeg, ei gerdded neu ei loncian, jyst byddwch yn rhan ohono a’n helpu ni i gael Cymru i symud.”
Bydd digwyddiad rhedeg rhithwir yn cael ei gynnal gan Rhedeg Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu cenedl newydd o redwyr.