Mae Stoke wedi denu’r cenwr chwith Rhys Norrington-Davies ar fenthyg o Sheffield United, ar ôl i’w riant-glwb ei alw’n ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Luton.

Bydd y Cymro 21 oed yn treulio gweddill y tymor gyda’r tîm yng nghanolbarth Lloegr.

Mae Cymro arall, Rabbi Matondo, wedi ymuno â Stoke ar fenthyg y mis yma.

Gyrfa

Chwaraeodd Rhys Norrington-Davies i dîm ieuenctid Abertawe cyn ymuno ag Academi Sheffield United yn 2017.

Dydy e ddim wedi chwarae i dîm cyntaf Sheffield United, ond mae e wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Rochdal a Barrow yn y gorffennol.

Chwaraeodd e 18 o weithiau i Luton ar fenthyg y tymor hwn, ac fe chwaraeodd e yn y golled o 2-0 yn erbyn Stoke ym mis Hydref.

Mae e wedi ennill tri chap dros Gymru, ac fe ddaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch y llynedd.

‘Awchu i ddatblygu a gwella’

“Rydym yn falch o ddod â chwaraewr ifanc arall i mewn sy’n awchu i ddatblygu a gwella,” meddai’r rheolwr Michael O’Neill.

“Mae Rhys yn chwaraewr rydyn ni wedi bod yn ymwybodol ohono ers peth amser, a dw i’n sicr y bydd e’n ychwanegiad allweddol at ein hadnoddau amddiffynnol am weddill y tymor.”