Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod John Mulvihill wedi gadael ei swydd fel prif hyfforddwr oherwydd rhesymau personol.

Ymunodd y gŵr 55 oed o Awstralia â’r Gleision cyn tymor 2018-19 ond mae’n gadael wrth iddo nesáu at fisoedd olaf ei gytundeb tair blynedd.

Roedd trafodaethau ynghylch ymestyn ei gytundeb wedi cael eu cynnal, ond cytunwyd y byddai John Mulvihill yn gadael yn sgil amgylchiadau personol cynyddol anodd.

Dywedodd prif weithredwr Gleision Caerdydd, Richard Holland: “Hoffwn ddiolch i John am ei holl ymdrechion yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb.

“Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn ond mae wedi goruchwylio datblygiad nifer o chwaraewyr ifanc talentog sydd wedi dod ffigyrau rheolaidd yn y tîm cyntaf a chynnydd sylweddol yn ein cynrychiolaeth ryngwladol.

“Gyda heriau digynsail pandemig byd-eang, mae wedi dod yn gyfnod cynyddol anodd i rygbi proffesiynol ac amgylchiadau personol John.

“Nid yw wedi gweld tair o’i ferched ers dwy flynedd bellach ac mae hyn wedi chwarae rhan sylweddol yn y penderfyniad.

“Mae’n rhaid i mi roi fy nheulu yn gyntaf”

Dywedodd John Mulvihill: “Rwyf wedi mwynhau fy amser yma’n fawr ac mae’n rhaid i mi ddiolch i bawb yn y clwb a’r cefnogwyr gwych am y croeso a gefais a’r angerdd a’r ymroddiad y maent wedi’u dangos drwyddi draw.

“Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd oherwydd yr heriau ariannol mewn rygbi rhanbarthol ac mae hynny wedi cael ei waethygu ymhellach gan bandemig Covid-19 a’r goblygiadau amrywiol, ond rwy’n hynod falch o’n llwyddiant wrth ddatblygu.

“Roeddwn wastad yn credu y gallwn ddod â llwyddiant i Gleision Caerdydd ar y cae ond gyda natur y tymor hwn a’r sefyllfa yn y byd ar hyn o bryd, mae’n rhaid i mi roi fy nheulu yn gyntaf ac rwy’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.

“Bydd Gleision Caerdydd yn parhau i fod yn rhan o fy mywyd ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r clwb, chwaraewyr, hyfforddwyr a staff ar gyfer y dyfodol.”