Mae Stoke City wedi arwyddo asgellwr Schalke a Chymru, Rabbi Matondo, ar fenthyg am weddill y tymor.

Mae gan y llanc 20 oed, sydd wedi chwarae i Schalke 30 o weithiau yn y Bundesliga ers gadael Manchester City am dros £11 miliwn ddwy flynedd yn ôl, saith cap i Gymru.

Dywedodd Matondo wrth wefan swyddogol Stoke City: “Rwy’n falch iawn i ymuno â Stoke City tan ddiwedd y tymor ac rwy’n edrych ymlaen at yr her.

“Dw i wedi dod yma i helpu’r bechgyn ym mhob ffordd y gallaf.

“Fel chwaraewr sy’n ymosod, dw i’n gobeithio y gallaf sgorio a chynorthwyo goliau a helpu’r tîm i gystadlu am y safleoedd dyrchafiad.”

Cymry eraill sydd wedi symud

Mae Declan John wedi ymuno â Bolton ar fenthyg o Abertawe tan ddiwedd y tymor, gan ddweud mai’r “prif beth i mi yw dod yma a chael cyfle i chwarae pêl-droed.”

Ac mae Swindon wedi arwyddo’r amddiffynnwr Kieron Freeman tan ddiwedd y tymor, ar ôl i’w gytundeb â Sheffield United ddod i ben ar ddiwedd y tymor diwethaf.