Fe fydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan y coronafeirws yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan os ydyn nhw’n methu talu rhent, tan ddiwedd mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith y coronafeirws, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i fod i ddod i ben ar Ragfyr 31, wedi cael ei estyn tan Fawrth 31 2021.

Bydd y cam hwn yn helpu i leihau’r baich ar amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, meddai Llywodraeth Cymru.

Ers dechrau’r pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pecyn at ei gilydd i fusnesau sy’n werth bron i £2 biliwn.

Mae hyn yn cynnwys £340 miliwn sydd ar gael drwy gylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau a ddaeth i rym ar Ragfyr 4.

“Diogelu busnesau”

“Er gwaethaf ein holl ymdrechion sy’n parhau i leihau lledaeniad y coronafeirws, mae achosion o’r feirws yn parhau i fod yn uchel ac yn destun pryder,” meddai Ken Skates.

“Rydym yn cydnabod bod y cyfyngiadau sy’n parhau a’r newidiadau ehangach o ran ymddygiad yn rhoi pwysau sylweddol ar lawer o’n busnesau.

“Fel rhan o’r pecyn cymorth hwnnw, rwy’n falch ein bod hefyd yn gallu estyn mesurau i atal fforffedu prydles am beidio â thalu rhent.

“Bydd hyn yn diogelu llawer o fusnesau rhag cael eu troi allan ac yn helpu i ddiogelu swyddi, diogelu busnesau a gwarchod ein heconomi dros y misoedd allweddol sydd i ddod.

“Byddwn ni’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cymorth ychwanegol wrth inni symud tuag at Gymru ffyniannus yn dilyn y pandemig.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Nid yw’n dasg hawdd cefnogi busnesau Cymru gan gadw cydbwysedd â’r angen i ddiogelu’r rhai sydd mwyaf agored i niwed ac atal lledaeniad y feirws.

“Mae sicrhau bod manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021 yn un o’r ffyrdd rydym yn helpu canol ein trefi nid yn unig i oroesi ond i ailgodi’n gryfach wrth iddynt barhau i fasnachu’n ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Mae sicrhau bod gan ein trefi ymdeimlad o le yn bwysicach nag erioed, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid, yn unol â’n hagenda Trawsnewid Trefi, i adeiladu canol trefi ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu.”