Mae’r cwmni tecawê Just Eat wedi addo cyflogi tua 1,000 o gludwyr dan gontract cyn diwedd mis Mawrth.

Daw hyn wrth i’r diwydiant cyflenwi ddelio â chyhuddiadau ynghylch gweithwyr economi gig, sef marchnad lafur a nodweddir gan nifer o gytundebau tymor byr neu waith llawrydd yn hytrach na swyddi parhaol.

Dywedodd Just Eat y byddai gan y gweithwyr newydd hawl i dâl fesul awr, isafswm cyflog neu gyflog byw, cyfraniadau pensiwn a thâl gwyliau a salwch, ymhlith pethau eraill.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Deyrnas Unedig, Andrew Kenny, nad yw’r cwmni’n gwybod pa gyfran o’r 1,000 o weithwyr newydd fydd ar gytundebau dim oriau, a faint fyddai’n llawn amser neu’n rhan amser.

Fodd bynnag, cadarnhaodd llefarydd yn ddiweddarach, o’r rhai sydd wedi cofrestru ers Tachwedd 11 pan lansiwyd y cynllun yn Llundain, nad yw’r “mwyafrif llethol” ar gytundebau dim oriau.

Dywedodd Andrew Kenny: “Mae gennym athroniaeth gref yn y busnes o sicrhau bod y cludwyr yn cael eu hamddiffyn a bod y manteision yn cael eu rhoi iddynt.

“Rydym yn rhoi’r dewis i gludwyr, rydym yn gwybod nad yw cytundebau dim oriau yn gweithio i rai cludwyr, myfyrwyr er enghraifft.

“Ni fyddai dim yn ein gwneud yn hapusach na gweld nifer sylweddol o gludwyr yn manteisio ar yr opsiwn o gyflogaeth lawn neu gyflogaeth ran-amser.”

Sylfaenydd Just Eat yn cefnogi annibyniaeth i Gymru 

Yr wythos ddiwethaf, dywedodd sylfaenydd Just Eat y bydd Cymru yn wlad annibynnol “o fewn fy oes i”

Datgelodd David Buttress, un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus Cymru, ei gefnogaeth i annibyniaeth mewn cyfweliad newydd ar raglen Y Byd yn ei Le ar 2 Rhagfyr.

“I mi, does dim amheuaeth hyd yn oed a all Cymru sefyll ar ei draed yn economaidd.

“Economi £70bn – mae tebygrwydd ledled Ewrop a’r byd sy’n dweud wrthych chi fod hynny’n wir.

“Os edrychwch ar y trethiant yn rhai o ddemocratiaethau gorllewin Ewrop, mae’n golygu y gallai Cymru gael diffyg rhwng tua 2-3%, sy’n unol â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd.

“Felly does dim ffordd na allai Cymru fod yn wlad annibynnol.”