Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi galw ar y Canghellor i wneud y cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol yn barhaol.
Dywedodd y byddai hyn yn helpu i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o syrthio ymhellach i dlodi yn sgil pandemig y coronafeirws.
Mae Hywel Williams eisiau i Drysorlys y Deyrnas Unedig ymestyn y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith o £20 yr wythnos, a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig.
Gwrthododd y Canghellor ymrwymo i ymestyn y gefnogaeth yn ystod ei adolygiad gwariant diweddaraf.
“Y rhai ar yr incwm isaf, gan gynnwys llawer sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad uniongyrchol i’r cwymp economaidd o’r pandemig, fydd yn cael eu taro galetaf os bydd y Llywodraeth yn gwrthod cynnal y cynnydd yng nghyfradd Credyd Cynhwysol,” meddai Hywel Williams AS.
“Mae’r codiad mewn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith wedi bod yn achubiaeth i lawer o fy etholwyr, gan gynnwys llawer o deuluoedd â phlant ifanc a oedd eisoes yn ei chael yn anodd fforddio’r pethau sylfaenol hyd yn oed cyn i’r pandemig daro.
“Yn rhy aml rwy’n clywed am etholwyr yn dioddef pob math o anawsterau, gyda’u sefyllfa yn gwaethygu gan effeithiau’r pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig.
“Byddai dileu’r cynnydd hwn mewn cefnogaeth lles ar yr amser gwaethaf posibl yn anfaddeuol.
“Gyda diweithdra yn cynyddu, mae tua chwe miliwn o bobl bellach yn ddibynnol ar Gredyd Cynhwysol.”