Mae £21,000 wedi cael ei godi ar gyfer teulu dyn 27 oed o Sir Conwy gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda lori yn yr Alban wythnos ddiwethaf.
Roedd y tad i ddau, sydd wedi’i enwi’n lleol fel Thomas Hobson o ardal Cyffordd Llandudno yng Nghonwy, wedi marw yn y fan a’r lle. Roedd yn teithio ar hyd yr A9 ger Inverness pan fu ei Vauxhall Astra glas mewn gwrthdrawiad â lori HGV.
Dywed yr heddlu nad oedd y gyrrwr lori wedi cael ei anafu yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 9.10yh ddydd Llun (Ionawr 4).
Roedd y ffordd ynghau am tua saith awr wrth i ymchwiliad llawn i’r gwrthdrawiad gael ei gynnal.
Codi dros £21,000 i’r teulu ar GoFundMe
Mae ffrindiau wedi sefydlu tudalen GoFundMe er mwyn cefnogi teulu Thomas Hobson.
Ers lansio’r dudalen ddydd Sadwrn (Ionawr 9), mae dros £21,000 wedi’i godi ar gyfer y teulu.
Mae datganiad ar dudalen GoFundMe yn dweud: “Roedd Tom yn gymeriad poblogaidd, yn cael ei garu nid yn unig gan ei deulu, ond gan ei holl gydweithwyr rhyngwladol.
“Roedd bob amser yn llawn bywyd ac roedd ganddo wên gyson, roedd yr agwedd gadarnhaol hon bob amser yn cael ei ddangos er gwaetha’r ffaith ei fod yn treulio wythnosau ar y môr mewn amodau llafurus.”
Dywedodd David Miller, o Uned Plismona Ffyrdd yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd yn yr Alban: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am amgylchiadau’r ddamwain i gysylltu â swyddogion.”